Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes
Home > Biographies & Memoire > Poetry > Poetry anthologies (various poets) > Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes
Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes

Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes


     0     
5
4
3
2
1



Out of Stock


Notify me when this book is in stock
X
About the Book

An anthology collating together over 170 of the best poems from 1987 to 2004: one of the richest periods of Welsh literary history. The aim of the collection is to reflect this variety and to give a platform to 50 very different poets of all ages.

Review :
Cyn imi blymio i ddyfnderoedd y casgliad cynhwysfawr hwn o gerddi, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd cyfrol o’r fath i ni, nid yn unig fel anoraciaid yr awen, ond fel cenedl. Mae ymwybod Cymru yn cael ei fynegi yn y cerddi hyn, pob bardd yn dod ynghyd â’i ddarn bach o frethyn i greu clytwaith sy’n werth ei weld a’i astudio. Hoffwn hefyd grybwyll mod i’n falch o weld cyhoeddi'r casgliad hwn gan imi bori’n ormodol (os yw hynny’n bosib) yn Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, ac mae hefyd yn braf cael llinyn mesur o’r farddoniaeth a gynhyrchwyd yng Nghymru rhwng 1987 a 2004, gan gymharu hynny â’r farddoniaeth a fu cynt a chan osod y safon (oes, mae yna safon i’r casgliad hwn!) ar gyfer cerddi’r dyfodol – rhywbeth sy’n peri ofn i fardd ifanc fel fi! Roedd Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif yn wych am y ffordd y cofnodai oedran a rhyw bwt am bob bardd a’u cerddi. Braf yw gweld fod yna fwy am y beirdd yn y casgliad hwn, ac er bod y clawr yn plesio, trueni nad mewn cloriau caled y cyhoeddwyd y gyfrol, ond manion yw pethau felly. Yr hyn sy’n bwysig yw’r rhagymadrodd a geir gan y golygydd, Tony Bianchi. Mae’n academaidd, eto’n ddealladwy i’r lleygwr, yn cynnig gwybodaeth a dadleuon difyr gan ofyn cwestiynau sy’n gwneud i'r darllenydd feddwl, a hefyd yn cynnig ei ffynonellau fel bo modd i’r darllenydd ymchwilio ymhellach os myn. Nid camp hawdd yw mynd ati i olygu cyfrol fel hon, gyda chynifer o gerddi wedi eu creu a’u canu rhwng 1987 a 2004 ac, ar y cyfan, rwy’n credu fod Toni Bianchi wedi gwneud teilyngdod â’r beirdd. Er y bydd yna achos o hyd yn codi lle gellir dadlau fod cerdd a hepgorwyd o’r gyfrol yn haeddu lle yno, y cyfan ddyweda i yw mod i’n falch mai Toni oedd yn dewis ac nid y fi! Mesur o’r llwyddiant hwn yw’r safon gyson a welir gan bob un bardd, ac fel y dywed y golygydd yn ei ragymadrodd, y ffaith fod yna batrwm yn codi, fod yna thema neu linyn tebyg yn rhedeg drwy’r cerddi i gyd, er mor amrywiol ydynt o ran crefft, arddull ac iaith. Ceir yma’r cerddi a fydd yn dal i gael eu trafod a’u darllen a’u cofio ymhen hanner can mlynedd, chwedl y golygydd, megis y nifer o bryddestau ac awdlau arobryn sydd i'w gweld yn y gyfrol. Er enghraifft, rwy’n siŵr y bydd pobol yn dal i drafod pryddest Aled Jones Williams, boed yn hoff o’r gerdd neu beidio. Mae hefyd yn dda gweld fod detholiad o’r awdl fuddugol gyntaf gan fenyw, sef Mererid Hopwood, yn cael ei gofnodi, nid yn unig am y rheswm hwnnw wrth gwrs ond oherwydd ei bod hi’n awdl mor dda. Yn yr un modd, mi fydd pobl yn cofio awdlau Mei Mac a Ceri Wyn Jones am y canu bythgofiadwy a geir ynddynt. Llinellau megis: 'Y dwedyd llai sy’n gwneud llên' gan Ceri Wyn a’r canlynol o'r awdl 'Gwawr' gan Mei Mac: 'Yn Gymraeg mae’i morio hi, Yn Gymraeg y mae rhegi.' Ceir yma’r afiaith ochr yn ochr â’r ing, bwrlwm a hyder dinesig a’r pryder dros ddyfodol cefn gwlad a’n cymunedau. Cymerwch Grahame Davies, y Cymro o ardal ddi-Gymraeg Wrecsam a ymsefydlodd yng Nghaerdydd gan nodi’r argraff y mae’n ei gael o fywyd Cymreig a Chymraeg y Brifddinas lle nad yw ffiniau tiriaethol mor glir bellach, lle mae’r cymunedau Cymraeg yn newid yn fythol ac yn cael eu cynrychioli gan weithgareddau’r ddinas. Mae llinell fel 'Dinas neis. Nawr ble mae’r geto' yn dweud cyfrolau gan godi cwestiynau ar yr un pryd; hynny yw, ai at y geto Cymraeg y cyfeiria neu at y ddelwedd gonfensiynol sydd gennym o geto’r tlodion? Ar y llaw arall, mae beirdd fel Tegwyn Pughe Jones, bardd gwlad, bardd ei gynefin i bob pwrpas, sydd hefyd yn nodi ei argraffiadau e o fywyd cefn gwlad a bywyd yn y fro Gymraeg lle mae ffiniau daearyddol yn mynd yn gynyddol bwysig yn wyneb y mewnlifiad o’r Dwyrain. Gyda hyn, daw pwysigrwydd aruthrol i’r broses o blannu coed wrth iddo obeithio y gall ei blant a phlant ei blant ddweud: 'Taid fy nhaid a’u plannodd nhw'. Braf yw gweld fod cryfderau, neu agweddau mwyaf llwyddiannus y beirdd, yn cael eu cynnwys a’u harddangos yn y gyfrol hon. Er enghraifft, yn nhudalennau T. Arfon Williams, dim ond un gerdd sydd yno nad yw'n englyn, a honno yw ‘Yn yr Ardd’ sy’n gerdd mor dyner a chelfydd ac yn gorffen yn grafog yn union fel ei englynion. Er mwyn gwneud teilyngdod â’r bardd arbennig hwn, cynhwysaf englyn cyfan o’i waith, ar y testun 'Egin'. Mae’n amlwg mai Duw yw’r artist – ac er bod yr Artist yn dod bob blwyddyn, mae’n amlwg nad yw rhyfeddod ei greadigaeth yn atyniad i’r arch-englynwr: 'Daw atom Artist eto eleni, Un na chlywn yn taro Ei frws ar gynfas y fro, Taweled ei bwyntilio.' Mae’r un yn wir am Dwm Morys. Mae ceinder ‘Mynd i’r tai newyddion’ yn anhygoel a dengys y gerdd yma ei grefft a’i ddawn gynganeddol yn ogystal â’i ddawn farddonol. Yn y cerddi eraill, adlewyrchir daliadau a gwerthoedd y bardd a’r rôl fel bardd ei gymuned y mae Twm a nifer o’i gyfoedion wedi ei mabwysiadu ers troad y milflwydd. Gweld ei hun fel bardd ei gymuned sy’n un o feirdd ei sir, a’i wlad ac, yn y pen draw, y byd, y mae Twm, felly gellir dadlau ei fod yn gweld y llun cyfan, neu’r clytwaith mawr, ond fod cymaint ohono yn mynd i mewn i’w ddarn bach o frethyn ef i gyfoethogi’r brethyn hwnnw. Mae hi hefyd yn braf gweld rhan o’i gyfathrebu cywyddol â Mei Mac lle mae’n ymddadfarwnadu, wedi i’r prifardd o dre’r Cofis canu cywydd Marwnad iddo yn y lle cyntaf! Yn wir, mae pob bardd yn y gyfrol yn amlwg wedi eu trwytho yn y Pethe, ac o ddiystyru’r ffaith fod y cerddi hyn oll yn Gymraeg, mae yna elfennau Cymreig iawn i’r cerddi a gyfansoddwyd rhwng 1987 a 2004, boed yn dilyn neu’n arbrofi â thraddodiadau barddol Cymreig fel Myrddin ap Dafydd a gwychder ‘Lynx mewn Sw’, sy’n defnyddio hen fesurau a aethant yn angof, neu’n Ifor ap Glyn a’i driniaeth o’i hunaniaeth e fel Cymro Llundain sydd hefyd â gwreiddiau yn ne a gogledd Cymru, hyd at Menna Elfyn ac Iwan Llwyd sy’n eangfrydig ac yn edrych y tu allan i Gymru am eu hysbrydoliaeth yn aml. Efallai mai trafod pethau sydd dros y dŵr maen nhw, ond maen nhw’n gwneud hynny mewn modd hynod Gymreig a chyda Chymru mewn golwg. Rwy’n amau fod ein hoffter ni, fel cenedl, o eiriau i’w gweld yn y gerdd 'Far Rockaway' wrth i Iwan Llwyd gwympo mewn cariad â’r enw: 'Dwi am fynd â thi i Far Rockaway, Far Rockaway, Mae enw’r lle Yn gitâr yn fy mhen, yn gôr O rythmau haf a llanw’r môr.' Soniais fod y clytwaith mor amrywiol; wel, hyfryd yw gallu mynd o ganu grymus ac enwog Gerallt Lloyd Owen (gweler englynion megis 'Yn angladd ei fam') i ganu cyfoes beirdd fel Mererid Puw Davies neu Elinor Wyn Reynolds. A dyna’r gair ‘cyfoes’ yn codi ei ben eto, gair sydd mor gymhleth i’w ddiffinio. Yn wir, cyfaddefa Toni Bianchi hynny ei hunan yn ei ragymadrodd. Os am gasgliad o gerddi a fydd yn dal i gael eu cofio ymhen hanner canrif, yna nid cyfoes yw’r gair mwyaf addas i’w roi yn nheitl y casgliad hwn. Tybiaf mai Donald Evans sydd wedi taro’r hoelen ar ei phen lle mae’r gair yma yn y cwestiwn, gan ddweud fod cerdd yn gallu bod yn gyfoesol, hynny yw, cerdd gyfoes sy'n oesol ar yr un pryd. Y cyfan yw cyfoesedd yw gwisg wahanol i gyfnodau gwahanol; erys y testun yr un peth ar hyd y canrifoedd yn y pen draw. A dyma fi’n sgrifennu’r adolygiad yma gan sylweddoli mod i heb gyffwrdd â gwaith nifer o fawrion ein cenedl, beirdd megis Dic Jones, Alan Llwyd, Gwyn Thomas a T James Jones i enwi ond rhai. Dyma roi syniad ichi o gryfder a safon y gyfrol gynhwysfawr hon sy’n creu darlun llawn o gyfnod yn hanes cenedl. Mynnaf fod pawb yn prynu copi o’r gyfrol hon am nad ydw i wedi gallu dyfynnu’r darnau gorau hyd yn oed yn yr adolygiad hwn ac am ei bod yn cynnwys perl ar ôl perl wrth droi’r tudalennau. Os ydych chi am ddarllen cerddi caeth, cerddi rhydd, cerddi cyhoeddus, cerddi personol, cerddi gan fenywod neu gan ddynion, yn hen ac yn ifanc, yn wledig neu’n ddinesig, yn sefydliadol neu’n cicio’n erbyn y tresi, dyma’r gyfrol i chi. Dyma gyfrol o farddoniaeth a fydd yn cael ei darllen yn eang am y degawdau nesaf, wel, tan y gyfrol nesaf o leiaf!


Best Sellers


Product Details
  • ISBN-13: 9781900437752
  • Publisher: Cyhoeddiadau Barddas
  • Publisher Imprint: Cyhoeddiadau Barddas
  • Height: 148 mm
  • No of Pages: 384
  • ISBN-10: 1900437759
  • Publisher Date: 06 Sep 2005
  • Binding: Paperback
  • Language: Welsh
  • Width: 210 mm


Similar Products

Add Photo
Add Photo

Customer Reviews

REVIEWS      0     
Click Here To Be The First to Review this Product
Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes
Cyhoeddiadau Barddas -
Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes
Writing guidlines
We want to publish your review, so please:
  • keep your review on the product. Review's that defame author's character will be rejected.
  • Keep your review focused on the product.
  • Avoid writing about customer service. contact us instead if you have issue requiring immediate attention.
  • Refrain from mentioning competitors or the specific price you paid for the product.
  • Do not include any personally identifiable information, such as full names.

Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes

Required fields are marked with *

Review Title*
Review
    Add Photo Add up to 6 photos
    Would you recommend this product to a friend?
    Tag this Book Read more
    Does your review contain spoilers?
    What type of reader best describes you?
    I agree to the terms & conditions
    You may receive emails regarding this submission. Any emails will include the ability to opt-out of future communications.

    CUSTOMER RATINGS AND REVIEWS AND QUESTIONS AND ANSWERS TERMS OF USE

    These Terms of Use govern your conduct associated with the Customer Ratings and Reviews and/or Questions and Answers service offered by Bookswagon (the "CRR Service").


    By submitting any content to Bookswagon, you guarantee that:
    • You are the sole author and owner of the intellectual property rights in the content;
    • All "moral rights" that you may have in such content have been voluntarily waived by you;
    • All content that you post is accurate;
    • You are at least 13 years old;
    • Use of the content you supply does not violate these Terms of Use and will not cause injury to any person or entity.
    You further agree that you may not submit any content:
    • That is known by you to be false, inaccurate or misleading;
    • That infringes any third party's copyright, patent, trademark, trade secret or other proprietary rights or rights of publicity or privacy;
    • That violates any law, statute, ordinance or regulation (including, but not limited to, those governing, consumer protection, unfair competition, anti-discrimination or false advertising);
    • That is, or may reasonably be considered to be, defamatory, libelous, hateful, racially or religiously biased or offensive, unlawfully threatening or unlawfully harassing to any individual, partnership or corporation;
    • For which you were compensated or granted any consideration by any unapproved third party;
    • That includes any information that references other websites, addresses, email addresses, contact information or phone numbers;
    • That contains any computer viruses, worms or other potentially damaging computer programs or files.
    You agree to indemnify and hold Bookswagon (and its officers, directors, agents, subsidiaries, joint ventures, employees and third-party service providers, including but not limited to Bazaarvoice, Inc.), harmless from all claims, demands, and damages (actual and consequential) of every kind and nature, known and unknown including reasonable attorneys' fees, arising out of a breach of your representations and warranties set forth above, or your violation of any law or the rights of a third party.


    For any content that you submit, you grant Bookswagon a perpetual, irrevocable, royalty-free, transferable right and license to use, copy, modify, delete in its entirety, adapt, publish, translate, create derivative works from and/or sell, transfer, and/or distribute such content and/or incorporate such content into any form, medium or technology throughout the world without compensation to you. Additionally,  Bookswagon may transfer or share any personal information that you submit with its third-party service providers, including but not limited to Bazaarvoice, Inc. in accordance with  Privacy Policy


    All content that you submit may be used at Bookswagon's sole discretion. Bookswagon reserves the right to change, condense, withhold publication, remove or delete any content on Bookswagon's website that Bookswagon deems, in its sole discretion, to violate the content guidelines or any other provision of these Terms of Use.  Bookswagon does not guarantee that you will have any recourse through Bookswagon to edit or delete any content you have submitted. Ratings and written comments are generally posted within two to four business days. However, Bookswagon reserves the right to remove or to refuse to post any submission to the extent authorized by law. You acknowledge that you, not Bookswagon, are responsible for the contents of your submission. None of the content that you submit shall be subject to any obligation of confidence on the part of Bookswagon, its agents, subsidiaries, affiliates, partners or third party service providers (including but not limited to Bazaarvoice, Inc.)and their respective directors, officers and employees.

    Accept

    New Arrivals


    Inspired by your browsing history


    Your review has been submitted!

    You've already reviewed this product!