About the Book
Table of Contents:
1. Chwarel Maes Mawr, Llanfechell, a Marmor Môn
2. Mynydd Trysglwyn (Mynydd Parys)
3. Mynydd Bodafon
4. Ynys Lawd a Mynydd Twr
5. Ynys Llanddwyn
6. Tŵr Marcwis, Llanfair Pwllgwyngyll
7. Y Gogarth
8. Trwyn Talacre a’r Parlwr Du
9. Ogofâu Dyffryn Clwyd
10. Bryniau Clwyd a Dyffryn Clwyd
11. Bryn Trillyn, Mynydd Hiraethog
12. Ffos Anoddun, Betws-y-coed
13. Llyn Cowlyd a llynnoedd Geirionydd a Chrafnant
14. Chwarel y Penrhyn, Bethesda
15. Nant Ffrancon
16. Cwm Idwal
17. Yr Wyddfa a Chwm Dyli
18. Ardal Rhyd-ddu
19. Clogwyn Du’r Arddu a’r Clogwyn Coch
20. Moel Tryfan a Chwarel Alexandra
21. Trefor a Chwarel yr Eifl
22. Y Foel Gron, Mynytho
23. Nant Gadwen, Llanfaelrhys, a Mynydd y Rhiw
24. Mynydd Mawr ac Ynys Enlli
25. Y Graig Ddu, Morfa Bychan
26. Traeth Mawr ac afon Glaslyn
27. Y Moelwynion a Thanygrisiau
28. Dinas Brân a Chreigiau Eglwyseg
29. Morfa Harlech–Morfa Dyffryn
30. Bwlch Tyddiad a Rhinog Fawr
31. Gwynfynydd – Maes Aur Dolgellau
32. Llyn Tegid
33. Pistyll Rhaeadr
34. Bwlch y Groes a’r ddwy Aran
35. Cwm Cywarch
36. Dyffryn Mawddach a Foel Cynwch
37. Castell y Bere a Chraig yr Aderyn, Dyffryn Dysynni
38. Cadair Idris a Llyn Cau
39. Tal-y-llyn
40. Y Breiddin a’r bryniau cyfagos
41. Castell Coch, Y Trallwng
42. Trefaldwyn
43. Talerddig
44. Foel Fadian a Foel Esgair-y-llyn
45. Dylife a’r Ffrwd Fawr
46. Y Borth–Ynys-las a Chors Fochno
47. Cwm y Maes-mawr a Charn Owen
48. Pumlumon a Nant-y-moch
49. Cwm Ystwyth
50. Cwm Hir a’i abaty
51. Cwm Elan
52. Llynnoedd Teifi a’r Elenydd
53. Cors Caron
54. Creigiau Stanner
55. Cefn Hergest
56. Y Carneddau a Llanelwedd
57. Llanwrtyd a Bro’r Ffynhonnau Iachusol
58. Cwmtydu – Traeth Pen-y-graig
59. Traeth y Mwnt
60. Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi
61. Dolaucothi
62. Merthyr Cynog a Mynydd Epynt
63. Garn Fawr a Phen-caer
64. Y Preselau a’u carnau
65. Llanfyrnach a’r Glog, Dyffryn Taf
66. Carn Llidi a Phentir y Sant
67. Harbwr Solfach
68. Traeth Niwgwl
69. Dyffryn Tywi: Dinefwr – Dryslwyn
70. Carreg Cennen – Llygad Llwchwr
71. Bannau Sir Gâr a Llyn y Fan Fach
72. Cwm Llwch a Bannau Brycheiniog
73. Dyffryn Ewias a Chwm-iou
74. Ysgyryd Fawr
75. Pen-y-Fâl a Chwm Wysg
76. Pen-twyn a Phontsticill
77. Pen-wyllt, Cwm Tawe
78. Dan yr Ogof: Canolfan Ogofâu Cenedlaethol Cymru
79. Craig Derwyddon a Phant-y-llyn
80. Cei Landshipping
81. Talacharn
82. Mynydd Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach
83. Glofa Cynheidre
84. Ffos-las, Trimsaran
85. Sgwd Henryd – Nant Llech
86. Porth yr Ogof, Ystradfellte
87. Tirlithriadau’r Blaenau
88. Six Bells, Cwm Ebwy Fach
89. Mynydd Beili-glas – Craig y Llyn
90. Marian y Glais, Cwm Tawe
91. Ynysoedd Sgomer a Sgogwm
92. Pont y Creigiau – Pentir Sant Gofan
93. Rhosili
94. Cefn Bryn a Maen Ceti
95. Craig yr Hesg, Pontypridd
96. Mynydd y Garth a Chwm Taf
97. Allteuryn a Gwastadeddau Caldicot
98. Dwnrhefn ac arfordir Bro Morgannwg
99. Aberogwr
100. Creigiau Bendrick
Review :
Taith gerdded ledled Cymru a gynigir inni o fewn y llyfr hwn sydd yn dylunio a disgrifio cant o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Cynhwysir llawer iawn o wybodaeth hanesyddol, ac mae gwybodaeth yr awdur yn eang ac yn drawiadol, a hynny mewn nifer o feysydd gwahanol fel archaeoleg, pensaernaeth a daeareg (maes, mae'n amlwg ddigon, y mae'r awdur yn feistr arbennig gan ei fod yn ddaearegwr proffesiynol). Llwyddodd hefyd i gynnwys cyfeiriadau at gymeriadau hanesyddol sydd o bwys lleol yn bennaf. Mae'r gwaith ymchwil cefndirol yn fanwl ac yn eang, a mynegir y cyfan mewn Cymraeg arbennig o raenus fydd yn apelio at groestoriad eang o ddarllenwyr. Mae'r astudiaeth yn addysgiadol, a chynhwysir tri neu bedwar o luniau hyfryd ar gyfer pob cofnod yn y llyfr. Daw ambell berl o wybodaeth ddiarffordd i'r golwg o fewn yr ysgrifau, a'r rhain fel arfer yn tarddu o wybodaeth arbenigol yr awdur o ddaearegwr a all gynnig esboniadau ynghylch elfennau o'r cyn-oesoedd a'r canrifoedd cynnar ar l Crist. Cawn wybod, er enghraifft, pam mae Chwarel y Penrhyn yn un o ryfeddodau pennaf gogledd Cymru, a pham yr adnabyddir Dan yr Ogof yng Nghwm Tawe fel Porth i ran o Annwfn, y lle diamser hwnnw sydd y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl. Er y cynhwysir nifer fawr o olygfeydd rhyfeddol o hardd, dywed yr awdur wrthym iddo eu dewis yn bennaf 'ar sail eu hynodrwydd, rhagor na'u harddwch naturiol, a'u hygerchedd'. Mae rhai o'r golygfeydd yn rhai enwog dros ben, fel chwarel y Penrhyn ym Methesda, yr Wyddfa, Llyn Tegid, Cadair Idris ac Abaty Cwmhir. Mae ambell enw newydd, llai cyfarwydd hefyd yn ymddangos. Nid esgeulusir yr un ardal, ond ceir nifer fawr o enghreifftiau o Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd. Darperir map o Gymru gydag allwedd i'r safleoedd a bortreadir yma. Dim ond un cofnod a neilltuir ar gyfer arfordir Ceredigion, sef y Borth, Ynys-las a Chors Fochno, er mor hyfryd yw'r golygfeydd lleol, a gellid fod wedi cynnwys rhai safleoedd hanesyddol o ardal Aberystwyth, Aberaeron, Llambed a Chaerfyrddin. Ond cynigir inni ysgrif afaelgar ar Warchodfa Natur Corsydd Teifi a gwaith mwyn ac aur enwog Dolaucothi. Ychydig o enghreifftiau hefyd a ddaw o ardaloedd diwydiannol cymoedd hen faes glo'r de. Nid oes unrhyw gofnod wedi'i neilltuo ar gyfer cymoedd ac ardaloedd Merthyr Tudful, Cwm Cynon a'r Rhondda, ond ceir disgrifiad hynod o ddiddorol o bentref glofaol a phwll glo Six Bells ger Abertyleri. Ceir erthygl ddiddorol yn ogystal ar Fynydd Beili-glas, Craig y Llyn, lle darperir gwybodaeth bwysig am lofa adnabyddus y Twr ger pentref diwydiannol Hirwaun yng Nghwm Cynon. Cefais flas anghyffredin yn darllen yr ysgrif ar Graig yr Hesg, Pontypridd, lle ceir ffotograffau hyfryd o afon Taf, chwarel Craig yr Hesg a'r gofgolofn enwog sydd ym Mharc Ynysangharad yn y dref honno i Evan a James James, y tad a'r mab a gyfansoddodd 'Hen Wlad fy Nhadau' ym 1856. Defnyddiol yw'r rhestr o'r termau daearegol a ddarperir yng nghefn y llyfr, amryw o'r rhain yn astrus ac yn lled anghyfarwydd i'r mwyafrif ohonom, ynghyd thabl o'r cyfnodau daearegol sydd yn ymestyn o'r oesoedd cyn-Gambriaidd dywedir wrthym fod creigiau hynaf oll y byd tua 4,000 miliwn o flynyddoedd oed hyd at y cyfnod cwaternaidd (1.8 miliwn o flynyddoedd yn l). Ond mae'n drueni na ddarperir unrhyw fath o fynegai i gynnwys y llyfr. Hyderaf y bydd cynnwys y gyfrol hon yn sbardun i'r darllenwyr i deithio drwy Gymru er mwyn gweld ac astudio'r ardaloedd a'r golygfeydd a bortreadir mor hyfryd yma. Dywed yr awdur wrthym iddo ddewis safleoedd sydd o fewn cyrraedd hwylus i'r mwyafrif ohonom. Hyfryd gweld bod copau clawr caled a meddal ar gael, a'r ddau am bris rhesymol hefyd. Gobeithio y bydd modd trosi'r gyfrol i'r Saesneg yn ogystal byddai marchnad dda ar ei chyfer, rwy'n siwr. J. Graham Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru