About the Book
Table of Contents:
Cyflwyniad Geoff Charles a'r Gymru Wledig: Pedwarawd y Buarth, Llandderfel Bwydo'r Rhyfel: Menyn y Sioe, Sioe Frenhinol Cymru Caernarfon "Cyfrinach Llwyddiant - Calch", Llanidloes, Sir Drefaldwyn Merched y Tir, Trallwng Cario Yd, Llanfyllin Tatws Maldwyn, Llwydiarth Cyfoeth y Gwrychoedd, plant ysgol Trewern ger y Trallwng Gwaith a Chrefft: Cwrwglwr, Llechryd Saer Olwynion, Bodffordd, Ynys Mon Saer Cribiniau, Llanymawddwy, Meirionnydd Melinydd, Llanddeusant, Ynys Mon Towr y Mason's Arms yng Nghydweli Teiliwr Llyn ac Eifionydd, Mr W M Parry, Fourcrosses Plygwr Gwrychoedd, Brynceunant Gof Aberdaron Gofaint Llanrug ger Caernarfon Casglu Cocos ar draeth Llansaint ger Cydweli Cewyllwr o Borth Amlwch, Mon Williams y Tryc, Cynwyd ger Corwen Ffair a Sioe: Mwd y Sioe Frenhinol, Machynlleth Sioe Mynytho Mart Croesoswallt Ffair y Bala Pencampwyr Cwn Defaid, o Bontllyfni Ymryson Aredig ym Mhen Llyn Sioe Hen Beiriannau yng nghwyl Capel Curig Deuawd Sioe Meirion, y brodor o Lundain Sioe Nefyn Sioe Gyntaf Llanelwedd Siopau a Gwasanaethau: Cau'r Siop yn Nanhoron, Llyn Diffodd y Trydan yn Llanfachreth ger Dolgellau Gwylio'r Bocs a Chario Dwr yn Rhos-y-bol, Ynys Mon Postmon Ceffyl o Dregaron Sioni Winwns ym Mhorthmadog Goroesi: Protest Llyn y Fan Brwydr Ysgol Bryncroes, Llyn Rali Ysgol Bryncroes Nant Gwrtheyrn Tai Llannerch-y-medd Bywyd i'r Anialwch, cynllun Trydan Dwr Rheidiol Pobl Olaf y Cwm, Cwm Blaenlliw rhwng Trawsfynydd a Llanuwchllyn Tryweryn Y Garnedd Lwyd, Tryweryn Eira Mawr y Ganrif Rhaeadr yn y Llan, Llanrheadr-ym-mochnant Syched yng Nghanol y Dwr, Enlli Marw 'Crwtyn Salem', Cwm Nantcol, Meirionnydd Cadw Dyletswydd, Llannor ym Mhen Llyn Diolchgarwch Cross Foxes, Carn Dolbenmaen Cymeriadau: Bugeiles o Dal-y-bont, Meirionydd Selina o Fynydd Hiraethog ger Nantglyn Bardd y Lorri Laeth, De Arfon Y Tramp ar fryn uwchben Dolgellau Elin Hughes, 102 oed o Riwlas ger Bangor Y Gwr o Baradwys, Llangristiolus, Ynys Mon Ann o Lyn Ysgubwr Dail yng Nganllwyd, Sir Meirionnydd Hen Arferion: Calan Hen, Llandysul Eiddo i Mari, Sarnau ym Meirionnydd Cyflaith yn ardal y Parc ger y Bala Canhwyllau Brwyn yn Abergeirw Byd Amaeth: Merched y Cynhaeaf yn Aberllefenni ger Machynlleth Heuwr ar fferm yn Chwilog Ceffylau Gwedd o Lanllyfni Llofft Stabal ger Boduan yn Llyn Diwrnod Cneifio ar fferm Nantymaen, Tregaron Cneifio Dyffryn Ceiriog Diwrnod Dyrnu, Llwyndyrys ger Pwllheli Saethwyr ym Mon Clwy'r Cwningod Hela heb Ladd ym Meirionnydd Twm y Ceffyl 'Gwyrdd', Carn Fadryn ym Mhen Llyn Mari'r Ferlen o Fodwrog, Ynys Mon Ysgubau Yd ym Modwrog, Ynys Mon Arallgyfeirio, Sir Feirionnydd Llefydd: Nantllwyd, Soar-y-Mynydd Rhydymain Llanfihangel-yn-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn Tyn-y-braich, Dinas Mawddwy Llyn y Gadair, Rhyd-ddu
About the Author :
Mae Ioan Roberts yn awdur, newyddiadurwr a chynhyrchydd teledu. Bu'n gweithio gyda Geoff Charles ar Y Cymro. Mae'n byw ger Pwllheli. Hon yw ei bumed cyfrol.
Review :
Casgliad o yn agos i gant o ddelweddau gan Geoff Charles or Gymru wledig, a dynnwyd dros gyfnod o bron i ddeugain mlynedd, a geir yn y gyfrol ddeniadol hon. Dymar ail mewn cyfres o dair cyfrol o luniaur ffotograffydd newyddiadurol a fun gweithio drwy gyfnod o newid syfrdanol ym mywyd a chymdeithas Cymru. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf, Cymru Geoff Charles, yn Rhagfyr 2004 ac o ran pryd a gwedd maer ail gyfrol mor atyniadol r gyntaf, ar lluniau hyn yn meddu ar yr un cryfder hyd yn oed ar l pori drwyr casgliad cyntaf. Bur golygydd yn pori drwy 120,000 o brintiau cyffwrdd yn y Llyfrgell Genedlaethol wrth ddewis y lluniau. Fei gwobrwywyd gyda chasgliad amrywiol o ddelweddau hynod o gryf yn wir, anodd iawn yw gweld bai ar unrhyw un or lluniau. Gellir cymryd dyfyniad Henri Cartier-Bresson (syn ymddangos ar ddechraur gyfrol) fel y cysyniad syn tynnur delweddau at ei gilydd i ffurfio casgliad cyflawn; sef mai swyddogaeth ffotograffydd yw delio gyda phethau sydd wastad yn diflannu, ac ar l iddynt ddiflannu, nid oes yr un ddyfais ar y ddaear a all wneud iddynt ddod yn l. Dymar man cychwyn. Yna arweinir y darllenydd or felin ir mart gan alw heibio ir teiliwr, yr efail, y beudy ar siop. Yn dilyn cyflwyniad byr, ceir pennod ar gefndir Geoff Charles o safbwynt ei fywyd personol a phroffesiynol, a dehongliad craff oi berthynas r bywyd Cefn Gwlad Cymreig. Yna dawr lluniau, ac yn lle capsiynau ceir brawddeg neu ddwy neu ambell baragraff cwta i gyd-fynd r lluniau. Mewn rhai achosion ceir yn ogystal ddyfyniadau gwreiddiol or Cymro. Un or elfennau syn hanfodol i lwyddiant y gyfres hon oedd y bartneriaeth rhwng yr awdur, Ioan Roberts, Charles ei hun. Yn sgil y ffaith fod y ddau yn gydweithwyr am flynyddoedd, rhydd Roberts ambell gipolwg arbennig i gyd-destun tynnu rhai or lluniau ar berthynas rhwng Charles ai destun. Ceir enghraifft o hyn gyda hanes Selina Williams, meudwyes na fu yn y pentref agosaf (oedd ddim ond pedair milltir i ffwrdd) ers dros ddeugain mlynedd. Dawr testun r lluniau (sydd eisoes yn gryf)i lefel uwch. Yn aml, ceir naws statig mewn hen luniau yn enwedig lluniau o gefn gwlad, ond yn y lluniau hyn maer ffotograffydd wedi dangos ei fedr drwy lwyddo i ddal eiliad o symudiad y calch yn ffrwydron gwmwl wrth gael ei chwalu dros y tir, jc yn cael ei rhannu wrth gneifio, neu ganu emyn yn galonnog fel rhan o wasanaeth diolchgarwch a gynhaliwyd mewn tafarn. Maer gyfrol hon yn apelgar ir hen ar ifanc fel ei gilydd. Bydd pori drwyddin dod ag atgofion melys am yr hyn a fu ir to hyn, tra mae hin wers hanes ir ifanc, ac yn rhoi cipolwg ar fyd a thraddodiadau sydd bellach wedi llwyr ddiflannu on gwlad. Einion Dafydd Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru