About the Book
Table of Contents:
Geoff Charles yn catalogio'i luniau Brymbo: John Charles, tad Geoff Jane Elizabeth Charles, mam Geoff Gweithwyr ffwrnes yng ngwaith dur Brymbo Gweithwyr achub, trychineb Gresffordd Rhyfel: Verlie Blanche Charles, gwraig Geoff, a'i merch Janet Faciwis yn cyrraedd gorsaf Drenewydd Tynnu rheiliau Plas Dinam i wneud arfau Tafarn y Queen's Head, Brymbo wedi ei chwalu gan fom 'Home Guard', Penybont Fawr Plant a cipar yn astudio darnau o fom Gosod mygydau nwy wrth ei gilydd Janet Bennett-Evans yn aredig tir ger Llangurig Cerdded polyn dros Afon Hafren, Drenewydd David Lloyd George yng Nghaernarfon Gorymdaith angladd Lloyd George yn Llanystumdwy Y galarwyr wrth fedd Lloyd George Dymchwel gwaith tun Raven, Glanaman Hau yn y ffordd draddodiadol Recordio Noson Lawen yn Neuadd y Penrhyn, Bangor Mabolgampau'r Urdd, Bangor Teulu o sipsiwn ger y Bala Swper ar fferm datws, Penrhyn Gwyr Y plismon a'r rhosyn gwyn, Trefyclo Damwain tren ym Mhenmaen-mawr Carneddog a Catrin tu allan i'w cartref Yr Etifeddiaeth: John Roberts Williams a Wil Vaughan Jones, Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau Freddie Grant wrth lidiart cartref y bardd Cybi yn Eifionydd Dangos ffilmiau yn Rhydaman Y 'Countess' yn mynd trwy y Trallwng o Lanfair Caereinion Mab Geoff gyda giard tren y Trallwng Mewn Standard 8 newydd Mab Dylan Thomas, Colm, yn sgwrsio a gweithiwr ffordd Dathlu Gwyl Dewi yn Machynlleth Clinig, ysgol gynradd Dolgellau Jack Price gyda'i fulod yn Aberystwyth Dewi a Huw Evans yn godro'r fuwch, Llandderfel Rhian Wyn Jones mewn pasiant Nadolig yn ysgol gynradd Rhiwlas, Arfon Dau o'r disgyblion cyntaf yn ysgol Gymraeg y Rhyl Llyn y Fan Fach Aneurin Bevan yn annerch cyfarfod etholiad Llafur yng Nghorwen Ritchie Thomas ym melin wlan Penmachno Bob Owen Croesor a'i wraig Nel Y Fonesig Amy a Syr T.H.Parry Williams, Aberystwyth T.E.Nicholas a D.J.Williams mewn rali CND yn Aberystwyth Dyddiau olaf Caerhilion, Aberhosan wedi iddo'i werthu i'r Comisiwn Coedwigo Manffri Wood, cipar, y Bala Mr Edwards o'r Brithdir, 'Grand Master' Seiri Rhyddion Dolgellau Dic Jones, y bardd yn 21 oed Billy Meredith, 76 oed, yn cychwyn gem bel-droed yn Nyffryn Ceiriog Oes Aur: Trychineb ras geir Le Mans pan laddwyd 80 o bobl HMS Conway, ar greigiau yn Afon Menai Achub y Parchedig J.W.Jones, ficer Llanelltud o'i ddamwain car Agor grid gwartheg cyntaf Prydain, ar y Berwyn Cwryglau o Abercych a Chilgerran ar Afon Tafwys fel rhan o ddathliadau Gwyl Dewi Y 'postmon ceffyl' olaf, ardal Soar y Mynydd Lettice Rees, 74 oed ac yn dal i gasglu cocos yng Nghefn Sidan Wil Sam yn cludo plant i'r ysgol cyn troi'n sgwennwr amser llawn Archwilio'r to yng ngwaith aur Cloga ger y Bont-ddu Bois yr hewl, Pontardawe Dynion ffordd, Bodegroes ger Pwllheli Y cerflunydd Jonah Jones a 'Sioni Winwns' o Lydaw yn rhannu adnoddau, Tremadog Siop y barbwr, Dolgellau Bertrand Russell yn cyfarch torf o 700 yn ei gartref ger Porthmadog Ingrid Bergman yn ffilmio Inn of the Sixth Happiness, Beddgelert Ryan Davies a Charles Williams Tryweryn cyn y dilyw: Euron ac Eurgain Prysor Jones yng nghae Tynybont, Capel Celyn Thomas Jones, bardd gwlad a'i fab John Abel, adroddwr Cneifio olaf Capel Celyn Paned ar y bws, wrth i'r pentrefwyr fynd a'u protest i Lerpwl Cyrraedd y ddinas, a Gwynfor Evans yn eu harwain Y brotestwraig ieuengaf, Eurgain Prysor Jones Y Parchedig Gerallt Jones, a'i boster yn fri o'r galon Wythnos olaf yr ysgol Deiniol Prysor Jones Y gwaith yn mynd rhagddo Plismona oedfa olaf y capel Cynullleidfa datgorffori'r capel Deiniol Prysor Jones ac adfeilion y pwlpud Arwerthiant fferm Gwerngenau John William a Mabel Evans yn cau drws Y Garnedd Lwyd am y tro olaf Teuluoedd Cae Fadog a'r Gelli yn ffarwelio a'u cwm Agoriad swyddogol y gronfa ddwr Croeso cynnes y dorf i'r gwahoddedigion Pont Trefechan: Protest dorfol gyntaf Cymdeithas yr Iaith, Aberystwyth Protestwraig a gwympodd yn ystod y gwrthdaro Gosod posteri ar Swyddfa Bost Aberystwyth Bws o fyfyrwyr bangor fu'n rhan i'r brotest ar Bont Trefechan 'Welsh Not' Protest iaith yn erbyn Sais a ddiswyddodd ddau weithiwr am siarad Cymraeg yn ei ffatri'n Nhanygrisiau Dafydd Iwan ac Emyr Llywelyn yn tynnu giat yr ysgol ym Mhen Llyn Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn rhwystro arwerthiant tai yng Nghaernarfon mewn protest yn erbyn tai haf Protest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn yr Arglwydd Hailsham, Bangor Erialau teledu ar bob to ar stryd yng Nghaernarfon Ffilmio Ifas y Tryc yng Nghricieth Gwenlyn Parry Chwarel y Foty, Blaenau Ffestiniog Caban chwarel y Goty wythnos cyn ei chau Y cyn-chwarelwr William Williams ar safle Chwarel Dinorwig Y tren olaf i gyrraedd gorsaf Caernarfon Codi rheiliau Morfa Mawddach wedi cau'r lein o Rwiabon i'r Bermo Dathlu canmlwyddiant sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia, Lerpwl Torf yn mynd ar y llong i ail-greu cychwyn mordaith y Mimosa Cymru ranedig 1969: Poster ar ffenest car yng Nghaernarfon...
About the Author :
Ganwyd Ioan Roberts yn Rhoshirwaun, Llyn ac ar ol cyfnodau yn Sir Drefaldwyn, Wrecsam a Phontypridd mae'n ol ym Mhwllheli gyda'i wraig Alwena a'u plant Sion a Lois. Bu'n beiriannydd sifil am gyfnod byr cyn cael gwaith fel newyddiadurwr ar Y Cymro. Bu'n olygydd rhaglen Y Dydd, HTV yn ohebydd newyddion i Radio Cymru ac yn cynhyrchu Hel Straeon a rhaglenni eraill i S4C.
Review :
"Cofnod hanesyddol pwysig… yn wledd i'r llygaid ac yn gyfrol hardd y mae modd ymgolli ynddi gydag edmygedd, gyda phleser, ac, yn anochel – gan mor ddwys yw llawer o'r lluniau – gyda rhywfaint o boen hefyd."
Grahame Davies, BBC Cymru'r Byd
Mae gennym ni yng Nghymru draddodiad hir o gofnodwyr cenedl unigolion sydd, trwyu lluniau au geiriau, yn creu corff o waith sydd yn rhoi ar gof a chadw y datblygiadau ar newidiadau yn ein cymunedau ac in tirwedd.
Dros gyfnod o hanner can mlynedd o'r 1930au nes iddo golli ei olwg yng nghanol yr 1980au, bu Geoff Charles yn gweithio fel ffotograffydd i bapur newydd Y Cymro. Ceir yn y gyfrol hon ddetholiad o rai oi luniau mwyaf cofiadwy ac arwyddocaol lluniau or Gymru wledig, ddiwylliannol a threfol, lluniau pobl wrth eu gwaith ac yn hamdddena, lluniau dathlu a lluniau galaru. Bellach mae dros 120,000 o negyddion Geoff Charles yng nghasgliad Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, ac or rhain gwelwn tua 100 yn y llyfr hwn.
Maen brofiad diddorol i rywun fel fi, sydd yn gweithio fel ffotograffydd newyddiadurol, i weld sut mae lluniau a dynnwyd ar gyfer defnydd cwbl gyfoes yn troi'n ddogfennau hanesyddol ymhen ychydig o flynyddoedd. Maer byd amaeth yn y lluniau yn y llyfr hwn wedi hen ddiflannu, felly hefyd yr hen ddiwydiannau trwm an rhwydwaith o reilffyrdd gwledig. Rhoddir pennod gyfan ir lluniau o foddi Capel
Celyn a phrotestiadau cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth ar ddechraur 1960au. Yn ei arddull syml mae Geoff Charles yn dogfennu radicaleiddio cymdeithas. Teimlaf yn gryf iawn bod Geoff Charles yn debycach i dyst nag i newyddiadurwr mewn nifer fawr or lluniau hyn.
Os oes un llun sydd yn dod ir meddwl pan foi enw yn cael ei grybwyll, heb os yr un or bardd Carneddog ai wraig Catrin y diwrnod cyn iddynt adael eu fferm anghysbell yn Eryri yw hwnnw. Maer llun bellach yn un (efallai yr unig un) on eiconau ffotograffig Cymreig. Yn llawn haeddu ei ddefnyddio ar glawr y llyfr, gwelwn wynebaur pâr yma yn sefyll mewn proffeil yn y ffrâm, eu llygaid yn edrych dros eu tir am y tro olaf. O ystyried ei bod bellach yn ddelwedd sydd yn rhan mor bwysig on hanes, diddorol oedd darllen am hanes ei thynnu a pha mor anfodlon oedd Geoff Charles ar y pryd i dorri ar ei ddydd Sul i ymweld â nhw.
Un peth wnaeth fy nghythruddo am y llyfr oedd safon y rhwymo. Pan agorais y llyfr yn fflat er mwyn gweld y lluniaun well, torrodd y meingefn a daeth nifer or tudalennau rhydd yn fy nwylo. Os ydym am barchu a gwerthfawrogi cyfraniad Geoff Charles in dealltwriaeth ni on hanes, ein hetifeddiaeth an hunaniaeth, dylid rhoi mwy o sylw i safonaur argraffu.