Buy Cyfres i'r Byw: Wyneb Rwber Book by Meleri Wyn James
close menu
Bookswagon
search
My Account
Home > Children's Books > Education & Reference > Language, literature and literacy > Classical and Ancient languages > Cyfres i'r Byw: Wyneb Rwber
Cyfres i'r Byw: Wyneb Rwber

Cyfres i'r Byw: Wyneb Rwber


     0     
5
4
3
2
1



Out of Stock


Notify me when this book is in stock
X
About the Book

Stori wedi ei seilio ar hanes gwir Operation Seal Bay pan ddatgelodd yr heddlu gynllun i dderbyn cyffuriau o long oddi ar arfordir sir Benfro a'u storio mewn ogof a adeiladwyd dan y traeth. Mae'r testun yn fodd i ysgogi trafodaeth ar gymryd a gwerthu cyffuriau; i ddisgyblion CA2/3. (ACCAC) A story based on the true story of Operation Seal Bay in which the police uncovered a plan to receive drugs from a ship off the Pembrokeshire coast and to store them in a large cave built under the beach, the text being a source of discussion on the topic of taking and selling drugs; for KS2/3 readers. (ACCAC)

Review :
Cyfres I’r byw Yn fy marn i – gan Einir Lloyd Jones, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam Dyma themâu cyfoes fydd at ddant bechgyn a merched Mae’n siŵr y cytunwch fod unrhyw ychwanegiad at gasgliad llyfrau Cymraeg y llyfrgell yn newyddion da. Yn y frwydr fythol i berswadio disgyblion ysgol uwchradd i osod eu i-pods o’r neilltu a chodi llyfr, mae cael dewis eang o lyfrau Cymraeg yn hollbwysig. Mae deuddeg llyfr yn y gyfres I’r byw, ac oherwydd eu cloriau lliwgar a’u cynnwys difyr, go brin y byddant yn hel llwch ar silffoedd y llyfrgell am lawer o amser. Credaf mai prif rinwedd y llyfrau yw eu bod yn ‘ddarllenydd-gyfeillgar’. O ran maint, maent yn eithaf byr (tua 50 tudalen); mae’r ffont yn glir heb fod yn blentynnaidd; mae’r paragraffau yn fyr ac mewn ‘blociau’ hawdd eu llyncu, ac mae pob llyfr yn mynd yn syth at wraidd y stori heb roi cyfle i’r c’nonyn mwyaf aflonydd golli diddordeb. Mae amrywiaeth o themâu cyfoes yn y llyfrau sy’n sicrhau eu bod at ddant bechgyn a merched a syniad da oedd cynnig cymysgedd o lyfrau ffeithiol a ffuglen. Maent yn addas ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7, 8 a 9 yn bennaf, er mai gan ddisgyblion Blwyddyn 8 y cawsant y derbyniad gorau. Llyfrau sy’n sbardun i waith creadigol Mae trosedd yn thema amlwg yn y gyfres ac yn thema a apeliodd yn fawr at fy nosbarth Blwyddyn 9. Llyfrau ffeithiol yw Wyneb Rwber, Lladron Diemwnt y Gromen a Torri’n Rhydd, ac mae’r tri yn adrodd hanes amrywiol droseddwyr. Roedd cael tri llyfr eithaf tebyg fel hyn yn rhoi’r cyfle i’r disgyblion ddatblygu’u sgiliau cyfathrebu drwy gyflwyno’r llyfrau i’w gilydd cyn eu trafod a’u cymharu. Yn dilyn hyn, rhoddais gyfle i’r disgyblion ymchwilio i hanes troseddwr o’u dewis eu hunain – cyfle da i ddefnyddio’r we! Yna, aethant ati i lunio pennod agoriadol i’w nofel eu hunain; pwy a ŵyr, efallai bydd ychwanegiadau at y gyfres cyn bo hir! O ran y llyfrau ffeithiol, y llyfrau ‘trosedd’ oedd y rhai mwyaf llwyddiannus ym marn y disgyblion, er i sawl un fwynhau Babs a Trychineb Medi 11 hefyd. Credwn y byddai ’Nôl i’r Gwyllt, hanes eliffant yn cael ei ddal a’i fagu ar fferm yn America, yn ychwanegiad da i'r thema Anifeiliaid ym mlwyddyn 8, wrth i'r disgyblion fynegi barn ar ddofi anifeiliaid gwyllt, ond braidd yn hirwyntog a diflas oedd y llyfr hwn ym marn y dosbarth. Cyffuriau neu beidio? Wrth symud ymlaen i edrych ar y llyfrau ffuglen, Ennill y Ras oedd un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd. Darllenais ddwy bennod gyntaf y nofel gyda fy nosbarth Blwyddyn 8, a chawsant eu cyflwyno i Llew, rhedwr ifanc oedd mewn penbleth ynglŷn â dilyn ei ffrindiau a chymryd cyffuriau i wella ei berfformiad a sicrhau ei le yng ngharfan Cymru. Roedd y llyfr yn ysgogiad gwych i waith mynegi barn ar gyffuriau mewn chwaraeon; lluniwyd llythyrau dychmygol i golofn gofidiau yn egluro problem Llew ac yna atebion wedi’u seilio ar farn ac ymchwil. Prawf o lwyddiant y nofel oedd i bron pob aelod o’r dosbarth ofyn am gael darllen gweddill y llyfr i weld a benderfynodd Llew ddilyn eu cyngor. Gwelais fod y nofel yn addas i’w defnyddio gyda dosbarth TGAU (Haen Sylfaenol) hefyd, er mwyn llunio tasg greadigol ar ddarllen. Er bod y nofel yn un fer, mae’r cynnwys yn aeddfed ac yn dal dychymyg y disgybl yn hawdd. Sut mae creu awyrgylch ar ddechrau nofel Mae Tawel Nos hefyd yn nofel dda iawn. Gellir ei hastudio o safbwynt llenyddol gan fod ynddi lawer o droadau ymadrodd a thechnegau ysgrifennu effeithiol. Mae hefyd yn adnodd da wrth fynd ati i wella sgiliau ysgrifennu creadigol y disgyblion; mae’r dudalen gyntaf yn enghraifft dda o sut i greu awyrgylch mewn agoriad i stori. Gofynnais i ddisgyblion Blwyddyn 7 ailysgrifennu’r un agoriad ond gan greu awyrgylch hapus. Mae’r ddeialog yn y stori hon, fel yn y llyfrau eraill, yn naturiol a syml ac yn addas i chwarae rôl. Rhagor o drafferthion cyfoes Mae’r We yn llyfr arall a fwynhawyd gan y disgyblion, yn enwedig gan ddisgyblion Blwyddyn 7. Mae’r thema’n gyfoes am fod merch yn mynd i drafferthion ar ôl cwrdd â bachgen mewn ystafell sgwrs ar y we. Mae’n gyfle i danlinellu peryglon y we ac yn arwain at dasgau megis creu poster neu dasg fwy ymestynnol, er enghraifft, llunio adroddiad newyddion neu greu hysbyseb deledu. Dyma gyfres fydd yn denu disgyblion i ddarllen yn annibynnol Does dim man gwan yn gyfres; roedd y darllenwyr ifanc o blaid pob llyfr, er mai’r nofel Smotiau a gafodd y nifer fwyaf o sylwadau negyddol. Ymateb cymysg a gefais i Llygaid Drygioni, nofel am weithwyr mewn ffatri halen a phupur sy’n dioddef amodau gwael. Efallai fod y nofel hon ychydig yn undonog a’r ddeialog braidd yn stiff, ond mae’n cynnig ei hun fel symbyliad i drafod amodau gwaith gyda'r disgyblion, ac yn rhoi'r cyfle iddynt fynegi barn am eu swyddi delfrydol. Credaf fod y gyfres I’r byw yn fuddsoddiad da i bob ysgol. O fewn yr ystafell ddosbarth, mae’r gyfres yn ffynhonnell ddefnyddiol sy’n symbyliad i waith llafar, darllen ac ysgrifennu. Gellir defnyddio rhannau o ambell lyfr tra byddai’n werth buddsoddi mewn setiau cyfain o rai eraill. Yn bwysicach, efallai, bydd y gyfres yn fuddsoddiad gwerthfawr yn yr ymdrech i gael disgyblion i ddarllen yn annibynnol, a phrawf o’u gwerth – gobeithio – fydd y lle gwag ar silff y llyfrgell.


Best Sellers


Product Details
  • ISBN-13: 9781843234708
  • Publisher: Gomer Press
  • Publisher Imprint: Gomer Press
  • Height: 148 mm
  • No of Pages: 56
  • ISBN-10: 184323470X
  • Publisher Date: 01 Mar 2005
  • Binding: Paperback
  • Language: Welsh
  • Width: 210 mm


Similar Products

Add Photo
Add Photo

Customer Reviews

REVIEWS      0     
Click Here To Be The First to Review this Product
Cyfres i'r Byw: Wyneb Rwber
Gomer Press -
Cyfres i'r Byw: Wyneb Rwber
Writing guidlines
We want to publish your review, so please:
  • keep your review on the product. Review's that defame author's character will be rejected.
  • Keep your review focused on the product.
  • Avoid writing about customer service. contact us instead if you have issue requiring immediate attention.
  • Refrain from mentioning competitors or the specific price you paid for the product.
  • Do not include any personally identifiable information, such as full names.

Cyfres i'r Byw: Wyneb Rwber

Required fields are marked with *

Review Title*
Review
    Add Photo Add up to 6 photos
    Would you recommend this product to a friend?
    Tag this Book Read more
    Does your review contain spoilers?
    What type of reader best describes you?
    I agree to the terms & conditions
    You may receive emails regarding this submission. Any emails will include the ability to opt-out of future communications.

    CUSTOMER RATINGS AND REVIEWS AND QUESTIONS AND ANSWERS TERMS OF USE

    These Terms of Use govern your conduct associated with the Customer Ratings and Reviews and/or Questions and Answers service offered by Bookswagon (the "CRR Service").


    By submitting any content to Bookswagon, you guarantee that:
    • You are the sole author and owner of the intellectual property rights in the content;
    • All "moral rights" that you may have in such content have been voluntarily waived by you;
    • All content that you post is accurate;
    • You are at least 13 years old;
    • Use of the content you supply does not violate these Terms of Use and will not cause injury to any person or entity.
    You further agree that you may not submit any content:
    • That is known by you to be false, inaccurate or misleading;
    • That infringes any third party's copyright, patent, trademark, trade secret or other proprietary rights or rights of publicity or privacy;
    • That violates any law, statute, ordinance or regulation (including, but not limited to, those governing, consumer protection, unfair competition, anti-discrimination or false advertising);
    • That is, or may reasonably be considered to be, defamatory, libelous, hateful, racially or religiously biased or offensive, unlawfully threatening or unlawfully harassing to any individual, partnership or corporation;
    • For which you were compensated or granted any consideration by any unapproved third party;
    • That includes any information that references other websites, addresses, email addresses, contact information or phone numbers;
    • That contains any computer viruses, worms or other potentially damaging computer programs or files.
    You agree to indemnify and hold Bookswagon (and its officers, directors, agents, subsidiaries, joint ventures, employees and third-party service providers, including but not limited to Bazaarvoice, Inc.), harmless from all claims, demands, and damages (actual and consequential) of every kind and nature, known and unknown including reasonable attorneys' fees, arising out of a breach of your representations and warranties set forth above, or your violation of any law or the rights of a third party.


    For any content that you submit, you grant Bookswagon a perpetual, irrevocable, royalty-free, transferable right and license to use, copy, modify, delete in its entirety, adapt, publish, translate, create derivative works from and/or sell, transfer, and/or distribute such content and/or incorporate such content into any form, medium or technology throughout the world without compensation to you. Additionally,  Bookswagon may transfer or share any personal information that you submit with its third-party service providers, including but not limited to Bazaarvoice, Inc. in accordance with  Privacy Policy


    All content that you submit may be used at Bookswagon's sole discretion. Bookswagon reserves the right to change, condense, withhold publication, remove or delete any content on Bookswagon's website that Bookswagon deems, in its sole discretion, to violate the content guidelines or any other provision of these Terms of Use.  Bookswagon does not guarantee that you will have any recourse through Bookswagon to edit or delete any content you have submitted. Ratings and written comments are generally posted within two to four business days. However, Bookswagon reserves the right to remove or to refuse to post any submission to the extent authorized by law. You acknowledge that you, not Bookswagon, are responsible for the contents of your submission. None of the content that you submit shall be subject to any obligation of confidence on the part of Bookswagon, its agents, subsidiaries, affiliates, partners or third party service providers (including but not limited to Bazaarvoice, Inc.)and their respective directors, officers and employees.

    Accept

    Fresh on the Shelf


    Inspired by your browsing history


    Your review has been submitted!

    You've already reviewed this product!
    Your IP: 216.73.216.193 IN