About the Book
Memoirs of boyhood by academic Derec Llwyd Morgan. Contains 35 black and white photographs.
Table of Contents:
Dyma gyfrol delynegol am hanes bywyd Derec Llwyd Morgan yn blentyn yn Nyffryn Aman. Crwt sensitif o’r Cefen ydoedd, yn fachgen o Gefn-bryn-brain. Dyma ddarlun o gyfnod arbennig ac o gymdeithas arbennig. Mae’n bortread hyfryd o gymeriadau a hen arferion mewn rhan o Gymru nad yw'n cael llawer o sylw.
Mae’r testun yn hyfryd o ddarluniadol, gan gyfleu byd ac amser gwahanol yn hynod iawn. Y mae sawl peth yn codi o'r gyfrol, gan gynnwys y ffaith i Derec golli aelodau o’i deulu a rhai o’i gydnabod yn ifanc ac i hynny gael cryn effaith arno.
Daw’r dweud i ben wrth i’r Derec ifanc gamu o fynwes ei deulu i’r byd mawr tu allan a dechrau ar ei yrfa mewn prifysgol.
Review :
Ymddeolodd yr awdur o fod yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn 2004, gan benderfynu mudo i Ynys Môn. Y mae'n ffigwr cyhoeddus blaenllaw ledled Cymru ers degawdau, yn ysgolhaig ac yn awdur toreithiog, ac yn un sydd yn darlithio ac yn darlledu'n lled reolaidd. Yma, gyda chof eithriadol o fyw, llwyddodd yr awdur i gamu ’nôl i flynyddoedd ei fachgendod ar 'y Cefen', sef Cefn-bryn-brain, a leolir ger fferm hynafol Bryn-brain, ar y ffin rhwng sir Gaerfyrddin a sir Forgannwg.
Rhan helaethaf yr atgofion o bell ffordd yw'r darn cychwynnol 'Corachu eto'n drowsus byr'. Drwy gydol y gyfrol cawn ein harwain yn frwdfrydig ar hyd heolydd y pentref bach gwledig hwn, gan gael ein cyflwyno i nifer fawr o gymeriadau diddorol a nobl ar hyd y daith. Yn eu plith mae trigolion hynod fferm Bryn-brain, a sonnir am rai o denantiaid y pedwar ar hugain o 'Dai Cownsil' a godwyd yn y pentref, gan ychwanegu'n sylweddol at nifer y boblogaeth.
Roedd mwyafrif y pentrefwyr naill ai'n gweithio ym mhyllau glo niferus y rhanbarth, sef ardaloedd Ystradowen, Cwmllynfell, Brynaman a Gwauncaegurwen, neu'n ffermio. A difyr yw'r disgrifiadau o rai o berthnasau gwaed yr awdur, ei fodrybedd a'i ewythrod yn bennaf, cymeriadau amrywiol eu natur, y rhai a oedd yn agos atynt pan oedd yn hogyn pen melyn yn yr ardal.
Yna rhoddir sylw i rieni'r awdur – eu gweithgareddau, eu diddordebau a'u hobïau, natur eu gwyliau a'u tripiau, a'u cyfeillion agosaf a fu'n ddylanwadol ar y teulu bach. I raddau helaeth, tref Abertawe oedd canolbwynt eu bydysawd tra syml. Magodd Derec Llwyd Morgan ddiddordeb arbennig mewn chwaraeon, yn enwedig rygbi a phêl-droed. Ac roedd mynychu'r sinema hefyd yn reit boblogaidd bryd hynny.
Cymdeithas led dlawd ydoedd hon, a bu mam yr awdur yn hynod o ddarbodus yn cadw arian gleision mewn cyfres o jygiau ar y dreser er mwyn talu'r biliau niferus. Ond gyda dyfodiad y pumdegau, ymddangosai celfi o safon uchel yn y cartref, ac roedd rhai o'u cymdogion yn lled awyddus i wneud gwelliannau i'w cartrefi syml. Ymddangosai ambell i set deledu du a gwyn ar aelwydydd yr ardal yn ogystal.
Naill ai i Rosaman neu'n bennaf i Gwmllynfell yr âi'r trigolion lleol i addoli ar y Sul, gyda chymanfa ganu'r Pasg a'r eisteddfod, a oedd yn cwmpasu aelodau chwech o gapeli, yn achlysuron arbennig ledled yr ardal. Un o uchafbwyntiau eu gweithgareddau oedd cyngerdd y plant yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ym mis Awst 1954.
Yna eir ymlaen i sôn am y tair siop a addurnai Gefn-bryn-brain yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fwyaf arbennig siop Annie May, lle bu teulu'r awdur yn gwsmeriaid ffyddlon, ac yna Siop Gynól, busnes y bu ei rieni yn ystyried ei brynu ar un adeg gan fod y fam wedi gweithio yno am flynyddoedd meithion. Ond, yn lle hynny, aeth ei dad i weithio i gwmni Teddington ym Mhontarddulais, ac yntau'n gorfod teithio am fwy nag awr ar ddau fws yn feunyddiol er mwyn cyrraedd yno.
Mae ail ran yr atgofion, sef 'Parched pob byw ei orchwyl', yn trafod y cyfnod a dreuliodd yr awdur yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, sefydliad a oedd yn hollol wahanol i drefn 'baradwysaidd safadwy' (chwedl yr awdur) ysgol gynradd y Cefen. Aeth i Ddyffryn Aman yn dilyn ei lwyddiant yn arholiadau'r 'sgolarship', efe a thri arall o'r Cefen. Cawn ddarllen am rai o'r athrawon a'r meysydd llafur a ddilynwyd ynddynt. Yr athro Cymraeg yn yr ysgol ramadeg oedd y geiriadurwr o fri H. Meurig Evans. Sonnir am y teithiau dyddiol ar y bws er mwyn cyrraedd yr ysgol, a rhai o gyd-ddisgyblion yr awdur yn yr ysgol, yn eu plith Dafydd Iwan.
Mae darn olaf yr atgofion difyr hyn, sef 'Angau, 'rwyt ti'n fy ofni i', yn trafod rhai o gyd-ddisgyblion yr awdur, yn fwyaf arbennig John Hughes, ei gyfaill pennaf, a'i deulu yntau, a bu farw John druan yn llanc ifanc yn dilyn damwain ofnadwy wrth chwarae ar fariau dur fel acrobat. Eir ymlaen i sôn am salwch difrifol ac yna farwolaeth Anti Gwen yr awdur. Yn dilyn yr ergydion enbyd hyn aeth yr awdur i fwrw wythnos o wyliau yn Llandudno, ond ni chafodd dawelwch meddwl yno o gwbl, a methodd ymlacio yn sgil ei golledion. Ond, eto, aeth bywyd yn ei flaen, ac yntau'n derbyn croeso tywysogaidd gan y Parch. J. Eirian Davies a'i wraig hawddgar ac athrylithgar Jennie, gyda'r ddau'n ei annog i barhau i lenydda a barddoni.
I gloi'r gyfrol, mae Derec Llwyd Morgan yn sôn am ei ddaliadau crefyddol ac yntau wedi dechrau pregethu ym mhulpud capel Bethania yn bymtheg mlwydd oed, ac yna yn derbyn llu o wahoddiadau i gynnal oedfaon mewn capeli cyfagos ac yn falch o’u derbyn. Ond, ar ôl iddo symud i Fangor fel myfyriwr israddedig ym 1961, gwaith academaidd a llenydda creadigol a aeth â'i fryd yn bennaf, a'r alwad at y pulpud yn llawer iawn llai apelgar iddo. Ac ni fu unrhyw droi yn ôl byth wedyn. Darllen difyr a dadlennol iawn o glawr i glawr.
Yn awr ac yn y man cyhoeddir cyfrol sydd fel petai’n camu’n ôl yn rhwydd ac yn llwyr i’r gorffennol, gan dywys y darllenydd gyda hi yn llawen. Cyfrol felly yw Bachgendod Isaac, disgrifiad Derec Llwyd Morgan o’i fore oes ar ‘y Cefen’, sef Cefn-bryn-brain, ar y ffin rhwng Shir Gâr a Morgannwg. Cerddwn ar hyd hewlydd y pentref gan ddod i adnabod ei bobl, a hynny drwy lygaid y crwt disglair penfelyn yr oedd ei ddyfodol – y pryd hwnnw – yn bell bant oddi wrtho.