About the Book
A collection of exciting and entertaining stories, laced with history, bravery and fear, excitement and heartbreak aplenty. In this volume, we follow the Welsh Mormons who crossed the prairies and Rockies to Salt Lake City with wagons and oxen, during the 20-year period before the coming of the railway (1847-1868), in accounts based on their diaries and biographies.
Review :
Daeth yr awdur i amlygrwydd yn wreiddiol fel sefydlydd cwmni teledu Ffilmiau'r Nant ym 1976, a byth ers hynny fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu blaengar ac arloesol. Ers blynyddoedd bellach mae ganddo ddiddordeb byw yn hanes taith y Mormoniaid Cymreig i orllewin yr Unol Daleithiau, a dyna wnaeth ei symbylu i ymchwilio'n drwyadl i'r maes ac i lunio'r astudiaeth gampus hon. 'Mae eu stori', a aeth yn angof yng Nghymru am nifer o resymau, 'yn werth ei hadrodd ac yn haeddu lle anrhydeddus yn hanes ein gwlad,' meddir wrthym yma. Ond dylid nodi bod gan Formoniaid ein hoes ni barch mawr at hanes a'r gorffennol, a'u bod yn eilunaddoli'r arloeswyr cynnar hynny a deithiodd mor ddewr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir ymgais sylweddol yn y gyfrol i ddilyn union drywydd y pedair neu bum mil o Gymry, sef y Mormoniaid Cymreig, a aeth i orllewin yr Unol Daleithiau tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hynny mewn wageni lled gyntefig cyn i'r rheilffordd gyrraedd y rhanbarthau hyn ym 1869. A'u nod tymor hir oedd cyrraedd Dinas y Llyn Halen o fewn mynyddoedd maith y Rockies. A bu modd i Wil Aaron wneud defnydd helaeth o'r dyddiaduron manwl, sydd yn fwrlwm o emosiwn a straeon antur gafaelgar, a gedwid ganddynt, yn enwedig rhai yr ymfudwyr cynnar sydd bellach wedi eu diogelu yn archif yr eglwys yn Ninas y Llyn Halen. Bu rhai, yn ogystal, yn llunio atgofion, a'r rhan fwyaf yn yr iaith Gymraeg, a bu'r cyfan o gymorth amhrisiadwy i Wil Aaron yn ei dasg. Gwnaethpwyd defnydd helaeth ganddo o gylchgrawn Cymraeg y Mormoniaid, Prophwyd y Jubili, ac yna'n ddiweddarach Udgorn Seion, sydd yn gyforiog o gyfeiriadau blasus ynghylch y maes hwn. Ac roedd yr ymfudwyr yn croesi'r Unol Daleithiau ar adeg arbennig o gyffrous yn hanes y wlad, rhwng 1847 a 1869 adeg y rhyfeloedd yn erbyn yr Indiaid a barodd am ddegawdau. Cofnodwyd digwyddiadau arwyddocaol eraill yn eu dyddiaduron y telegraff cyntaf oll yn croesi'r cyfandir ar fyrder, y goets fawr gyntaf yn teithio ar draws y wlad, a chychwyn a datblygiad rhyfeddol y rheilffyrdd a fu'n gyfrifol am drawsnewid trafnidiaeth dros gyfandir Gogledd America. Cyrhaeddodd rhwng pedair a phum mil o Formoniaid Cymreig Ddyffryn y Llyn Halen cyn dyfodiad y rheilffordd i'r rhanbarth oddeutu 1869. I roi'r ystadegau hyn yn eu cyd-destun, dylid nodi mai rhyw 60,000 o Gymry a ymfudodd i weddill America yn ystod yr un cyfnod. Ond roedd y pedair neu bum mil yn ddwy neu dair gwaith y nifer a ddewisodd ymfudo i Batagonia ym 1865, er iddynt hwythau dderbyn llawer mwy o sylw gan haneswyr ac awduron amrywiol. Gyda'r nos roedd yn arfer gan y mewnfudwyr Cymreig ar adegau glywed 'trwmpedau'r eliffant' a dyna esbonio teitl y gyfrol hon. Roeddent yn ystyried yr eliffant fel ymgorfforiad cnawdol o beryglon niferus eu taith hynod anodd, yn eu plith y miloedd ar filoedd o fyfflo oedd yn fygythiad cyson iddynt, yn enwedig gyda'r nos. Ymhlith y llu peryglon eraill a'u hwynebai roedd y cenllysg maint wyau a'r corwyntoedd a nodweddai'r paith, y stormydd eira, ynghyd gwahanol afiechydon a newyn. Ac ar adegau roedd yr Indiaid brodorol gelyniaethus yn ymosod arnynt yn ddidrugaredd, ond delwedd fythol bresennol 'yr eliffant' oedd yr ymgorfforiad mwyaf cyffredin o'u hofnau. Mewn pob math o amgylchiadau anodd, hoffai'r mewnfudwyr honni eu bod wedi 'gweld l troed yr eliffant', neu o leiaf wedi 'gwynto ei anadl' fygythiol. 'Hen frenin arswyd y paith' ydoedd y creadur yn eu tyb hwy, ond eto roedd ganddynt barch tuag at yr anifail mawreddog hwn. Trawiadol odiaeth yn ogystal yw'r cefndir daearyddol i'w gweithgarwch tanbaid taith hirfaith y Missouri, y mynyddoedd a thiroedd bras y peithiau a ymestynnai am gannoedd o filltiroedd, ac yna'r Gwastatiroedd Mawr a mynyddoedd urddasol y Rockies hwythau. A phen draw eu taith oedd Dyffryn y Llyn Halen, lle bu'r 'eliffant' yn teyrnasu am flynyddoedd ar eu hyd. 'Llyfr yw hwn am ddynion a merched, llawer ohonynt yn Gymry, a edrychodd i wyneb yr "Eliffant", heb ofn, a phoeri i'w lygad,' medd yr awdur wrthym, a dim ond y dewraf ohonynt, wrth gwrs, oedd yn mentro cymryd y cam hwn! Ac fel pob stori antur dda, mae yna ddewrder ac ofn ar hyd y daith gofiadwy hon. A chynhwysir yn yr astudiaeth saith deg o luniau a ffotograffau ynghyd map buddiol ar gychwyn y gyfrol. Defnyddiol hefyd yw'r nodiadau llawn ynghylch y prif ffynonellau, adran a drefnwyd fesul blwyddyn, ond gwelir eisiau troednodiadau mwy ffurfiol. Wrth ddarllen, rhaid rhyfeddu at amynedd a phenderfyniad Wil Aaron wrth iddo ymchwilio a chofnodi mor fanwl yn y maes astrus hwn. Cyn ymddangosiad y llyfr hwn, cymharol ychydig oedd yn hysbys am hanes y Cymry hynny a fentrodd i Utah, ac ychydig oedd ar gael mewn print amdanynt, yn rhannol o ganlyniad i'r elyniaeth ffyrnig a fodolai rhwng y Mormoniaid ac aelodaeth y capeli Anghydffurfiol yng Nghymru. Roedd tuedd i ddileu'r cof amdanynt o isymwybod cul hoelion wyth ein capeli, ond mae'r gyfrol hon wedi unioni'r cam hwnnw. Can diolch i Wil Aaron am ei lafur a'i ymroddiad diarbed. J. Graham Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru