About the Book
An informative volume giving an account, pictures, and entertaining stories about over a hundred notable Welsh chapels.
Table of Contents:
Cyflwyniad Diolchiadau Rhestr Byrfoddau Aber-Carn, Eglwys Gymraeg (P); Aberdar, Siloa (A); Abergele, Mynydd Seion (P); Abergwaun, Hermon (B); Aberhonddu, Plough (A/R); Aberteifi, Bethania (B); Aberystwyth, Capel y Morfa (P); Aberystwyth, Seion (A); Aberystwyth, Sant Paul, (W); Aberystwyth, Y Tabernacl (P); Bae Colwyn, Y Tabernacl (B); Y Bala, Capel Tegid (P); Bangor, Berea Newydd (P); Bangor, Pen-dref (A); Bethesda, Jerusalem, Eglwys Unedig (Un); Blaenau Ffestiniog, Jerusalem (A); Blaenannerch (P); Blaen-y-Coed (A); Bow Street, Y Garn (P); Caerdydd, Eglwys y Crwys (P); Caerdydd (Treganna/Canton), Salem (P); Caerdydd, Y Tabernacl (B); Caerfyrddin, Heol Awst (A); Caerfyrddin, Heol Dwr (P); Caerfyrddin, Y Tabernacl (B); Caernarfon, Ebeneser (W); Caernarfon, Seilo (P); Capel Hendre (P); Casllwchwr, Moreia (P); Cefncymerau, Salem (B); Cilfowyr (B); Clydach, Calfaria (B); Cricieth, Berea (B); Dinbych, Capel Mawr (P); Dinbych, Lon Swan (A); Dinbych, Pendref (W); Dolanog, Capel Coffa Ann Griffiths (P); Efailisaf, Tabernacl (A); Eglwysilan, Y Groes-wen (A); Eifionydd, Capel y Beirdd (B); Ffynnonhenri (B); Gwaelod-y-Garth, Bethlehem (A); Henllan Amgoed (A); Hwlffordd, Y Tabernacl (CO); Llanarmon-yn Ial, Bethel, Rhiw Ial (P); Llanberis, Capel Coch (P); Llanbryn-Mair, Hen Gapel (A); Llandegle, Y Pale (The Pales) (C); Llandudno, Seilo (P); Llandudno, Tabernacl (B); Llanelli, Capel Als (A); Llanelli, Seion (B); Lalnfaches (R); Llanfyllin, Pendref (A); Llangefni, Capel Cildwrn (E); Llangefni, Moreia (P); Llangeitho, Capel Gwynfil (P); Llangennech, Salem (B); Llanrwst, Seion (P); Lanrheadr-ym-Mochnant (W); Llansannan, Capel Coffa Henry Rees (Un) Llanuwchllyn, Yr Hen Gapel (A); Llanwenarth (B); Llanymddyfri, Capel Coffa William Williams (P); Llanystumdwy, Moriah (P); Llwynhendy, Soar (B); Llwynrhydowen (U); Llwynypia, Bethania (P); Machynlleth, Y Tabernacl; Maesteg, Bethania (B); Maesyronnen (R); Margam, Beulah (P); Martletwy, Burnett's Hill; Nanhoron, Capel Newydd (A); Neuadd-Lwyd (A); Penrhyn-Coch, Horeb (B); Pen-y-Groes (Sir Gaerfyrddin), Y Deml (AP) Pontarddulais, Y Gopa (P); Pontrobert, Hen Gapel John Hughes (P); Porthaethwy, Eglwys Bresbyteraidd Saesneg (P); Porthmadog, Capel y Porth (P); Rhosllannerchrugog, Bethlehem (A); Rhosllannerchrugog, Jerusalem (P); Rhosmeirch, Ebenezer (A) Rhuthun, Capel Coffa Edward Jones, Bathafarn (W); Rhuthun, Y Taberncal (P); Rhydaman, Bethany (P); Rhydaman, Gellirmanwydd (A); Rhydlewis, Hawen (A); RHydwilym (B); Y Rhyl, Clwyd Street (P); Sain Ffagan, Pen-rhiw; Sain Tathan, Bethesda'r Fro (R); Soar y Mynydd (P); Tal-y-Bont (Ceredigion), Bethel (A); Tan-y-Fron (P); Trecynon, Hen DY Cwrdd (U); Treforys, Y Tabernacl (A); Trefriw, Peniel (P); Tre-Garth, Shiloh (W); Trelawnyd, Ebeneser (A); Tre-Lech, Capel-y-Graig (A); Tremadog, Peniel (P); Y Tymbl, Bethania (A); Yr Wyddgrug, Bethesda (P); Wystog (Woodstock) (P) Atodiad Lerpwl, Bethel, Heathfield Road (P); Llundain, Jewin (P); Melbourne, Eglwys Gymraeg; Philadelphia (York County), Rehoboth Gaiman (Y Wladfa), Bethel
About the Author :
Yn frodor o Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, bu Dr Owen yn ystod ei yrfa yn archifydd, gweinyddwr a darlithydd yn Aberystwyth a Chaerdydd. Hyd ei ymddeoliad ef oedd Ceidwad Darluniau a Mapiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae'n weithgar gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn aelod o Bwyllgor Gwaith CAPEL, a Bwrdd Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru.
Review :
Dyma lyfr syn rhoi disgrifiadau byr o 106 o gapeli Cymru o bob enwad, a 5 capel arall. Cawn wybodaeth am sefydlur achos, amser yr oedfaon, nifer yr aelodau ar gweinidog ac ychydig fanylion pensaernol. Anrheg ddelfrydol felly i weinidogion, blaenoriaid/diaconiaid ac anoracs enwadol. I bawb arall, diddordeb mewn hanner dwsin or capeli ar y mwyaf? Na, nid ir anoracs yn unig mae llyfr D. Huw Owen maen ddarllen difyr i bawb. Mae rhai o eiconaur genedl yma: Salem, Cefncymerau (llun Curnow Vosper o Sin Owen); Soar y Mynydd; Bethesdar Fro; Pontrobert. Mae eraill yn gysylltiedig n barddoniaeth: Nanhoron (Cynan); Blaen y Coed (Elfed); Tabernacl, Llandudno (Dros Gymrun gwlad); Capel y Beirdd (Maer gwaed a redodd). Mae yma gapeli coffa i Enwogion y Ffydd: Ann Griffiths, Williams Pantycelyn, Henry Rees, John Elias, Christmas Evans. Maer capeli a fun gyrchfan i bererinion yma: Llangeitho, y Bala, y Deml Apostolaidd ym Mhenygroes a fu am gyfnod yn bencadlys rhyngwladol ir sect, a hefyd y capel r nifer mwyaf o ymwelwyr bob blwyddyn, sef Pen-rhiw, Sain Ffagan. Gwelwn fod rhai achosion fel Llanfachaes, Henllan Amgoed, Maesyronnen, Llanfyllin wedi goroesi ers cyfnod erledigaeth y Ddeddf Unffurfiaeth (1662). Maen nhwn gysylltiedig ag enwau fel Vavasor Powell, Walter Cradoc, Morgan Llwyd a Stephen Hughes. Yn y ganrif nesaf, cawn gapeli chysylltiadau ag enwogion y Diwygiad Methodistaidd, capeli a gafodd ymweliadau gan George Whitfield, Hywel Harris a Williams Pantycelyn. Mae capel hynaf y Bedyddwyr yma, a Thy Cwrdd hynaf y Crynwyr. Heb os, mae cerrig milltir Ymneilltuaeth Cymru yma i gyd. Air garreg filltir olaf fydd Blaenannerch a Diwygiad 04-05? Ond maer newydd yma hefyd: capeli modern Jewin, y Crwys, Berea Newydd, Capel y Porth, St Paul. Ac ar l dwy ganrif o gapeli split ac ymgecru rhyngenwadol, mae llygedyn o obaith bod synnwyr cyffredin a chymod ar y gorwel gyda nifer o Eglwysi Unedig, fel Jeriwsalem, Bethesda; Llansannan; Seilo, Llandudno (faint gostiodd y drysau gwydr hardd yna, tybed?). Maer llyfr yn disgrifio nifer fawr o gapeli syn rhan annatod on tirlun trefol. Tybed faint ohonynt, a adeiladwyd mewn gobaith, a fydd yn goroesi? Beth fydd eu hynt? Eu haddasu i fod yn ganolfan Merched y Wawr, neun dafarn fel yr Academi, y ddau yn Aberystwyth? I gynllunwyr a datblygwyr, mae sawl capel trefol yn prime site ir dyfodol, i archfarchnad, apartments neu Wetherspoons ai Happy Hour. Amser a ddengys use it or lose it. Maen syndod yr atgofion syn codi wrth droir tudalennau, lleoliad sawl bedydd, priodas ac angladd. Daw atgofion personol hefyd, cerdded yn l i Wersyll Glanllyn or Hen Gapel, Llanuwchllyn efor ferch o ...? Merch arall yn y galeri yn y Tabernacl, Caerdydd. Ond atgofion personol ydir rhain, a rhag ofn fod y wraig yn darllen yr adolygiad, gwell tewi! Diolch i Huw Owen am lyfr difyr. Prynwch o, porwch ynddo. Mwynhewch yr atgofion a rhyfeddu at yr aberth ar argyhoeddiad a fu. Meurig Royles Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru