About the Book
A gripping detective novel about a psychology lecturer who tries to help the police by analysing the mind of a schizophrenic serial killer in order to explain his motives and the reason why quotes from the Mabinogi are left at the scene of the crimes.
About the Author :
Arwel Vittle lives in Dinas near Caernarfon. He's the author of two successful novels: Talu'r Pris and Post Mortem.
Review :
Dyma drydedd nofel Arwel Vittle, ei ail dan ei briod enw. Cofiaf yn dda, yn ôl yn 1995, edmygu dawn ac addewid Elis Ddu, a cheisio, yn ofer ar y pryd, ddyfalu pwy oedd awdur Post Mortem, nofel ddychan yn cyfunor difrif ar doniol mewn mesur cyfartal, fel y dylai dychan, ac yn gwneud defnydd medrus iawn o gyfeiriadaeth lenyddol. Yn 2000 dilynodd Talur Pris, ymgais ar stori gyffrous boliticaidd wedi ei gosod yn y Gymru Fydd hunllefol lle troediodd awduron eraill eisoes; yr oedd ynddi themâu cryfion, ond collid y doniolwch. Bellach, yn Dial yr Hanner Brawd, dyma hwnnw yn ei ôl ar ffurf ffars ddu iawn, a gyfunir â dychan cignoeth, cyrhaeddgar.
Dychan ydyw ar ddosbarth a chenhedlaeth a gollodd olwg ar eu nod a chefnu ar hynny a oedd ganddynt o weledigaeth; dosbarth a chenhedlaeth syn cynnwys yr awdur ar adolygwr ar rhan fwyaf, mi dybiaf, o ddarllenwyr y wefan hon. Fel yn y ddwy nofel flaenorol, gwrthgiliad mawr ugain mlynedd olaf yr ugeinfed ganrif ywr cefndir i bopeth yma, y cefnu wedi 1979 ar genedlaetholdeb, a chydag ef ar yr hen beth arall hwnnw a elwid egwyddor. Mae nifer o awduron eraill wedi ymateb ir un ffenomen, ond ni chredaf fod neb wedi ei wneud yn well nar awdur hwn.
Doeth fyddai cymryd pinsiad o halen gydar disgrifiad nofel dditectif. Mae dau dditectif ynddi, un proffesiynol ac un amatur syn ei helpu, ac ir graddau hynny y maen cyd-fynd ag arferion y genre. Ar wahân i hynny, cymer yn rhydd iawn ar y traddodiad neur confensiwn. Gadewir y llofrudd âi draed yn rhydd ar y diwedd, er ein bod yn gwybod ers tro pwy ydyw. Nid llofrudd nodweddiadol stori dditectif ywr Dialydd hwn ond ffigur chwedl neu ffantasi gydai het fawr ai glogyn ai arferiad
o adael dyfyniad llenyddol ar ei ôl bob tro y maen taro. Fel ei ddyfyniadau, daw ef ei hun or Mabinogi; Efnisien ydyw, yn cyfunor dehongliad cymharol ddiweddar or cymeriad didrugaredd hwnnw fel gwarcheidwad angenrheidiol âr dehongliad ychydig bach hŷn ohono fel cariad Branwen. Gweithiodd y cyfuniad yn dda gan roi inni stori gref ei hadeiladwaith, yn cael ei hadrodd bob yn ail o safbwynt y lleiddiad ac o safbwynt un or datgelwyr.
Ymddatblygar ffars dywyll yn effeithiol iawn gan ein gadael ar y diwedd yn gwbl ddadrithiedig, pa ffordd bynnag yr edrychir arni. Nid yn unig maer ddau ddatgelwr yn ddau bwdryn, maer lleiddiad hefyd yn seicopath gwir beryglus erbyn y tudalennau olaf. Dynion Drwg Drama oedd y pump cyntaf oi chwe ysglyfaeth, ac efallai inni ein dal ein hunain yn rhoi iddo hwrê fach wrth ir naill ar ôl y llall ohonynt lyfur llwch; maer chweched dioddefydd braidd yn wahanol, gwraig gymharol ddiniwed, neu o leiaf heb dystiolaeth yn ei herbyn heblaw disgrifiad cymeriad arall ohoni fel twp ac uchelgeisiol. Dechreuodd y stori fel jôc, ac fei cynhaliwyd ar y lefel honno am gryn ddeuparth or ffordd; yna mae sobreiddio eithaf brawychus a chipolwg ar drasiedi. Cipolwg, dim mwy, oherwydd at ddychan y mae gogwydd naturiol yr awdur.
Fel gyda phob gwir ddychanwr, mae tipyn or piwritan yn ei gyfansoddiad, ar tipyn hwnnw syn rhoir brath yn y gyfres bortreadau o gymeriadau diffaith a sefyllfaoedd ynfyd. Darlun gwych o gabledd ac oferedd ywr Ymryson Emynau (tt. 108-10), cymar teilwng ir disgrifiad yn Post Mortem or dyn syn treulio tragwyddoldeb yn taro peli golff ir môr oddi ar fwrdd Llong y Ffyliaid. Gŵyr yr awdur hwn sut i anelu cic. Mawr yw ei gyfle yn y Gymru sydd ohoni. Gobeithiaf y deil ati, a rhagwelaf le sicr iddo yn olyniaeth y prif ddychanwyr. Dylai Elis Wyn fod yn falch o Elis Ddu.
Gwylied, serch hynny, rhag un peth. Fe gofia, maen ddiau, ei bortread sydyn (t. 59) o Dyfrig Elwyn, y puraf o bob purydd a Mwla mwyaf y Taliban iaith. Fe ddaw Dyfrig Elwyn ar ei war, mor sicr âr Dialydd ei hun, os na chywira bethau fel hyn erbyn ei nofel nesaf: mewn D fwyaf (6), rhywbeth gwahanol am y llofrudd hwn (51), dweud wrthi am gadwn dawel ac i beidio (80), roedd rhywbeth anorfod am bopeth (149). Ac wedi dewis yr arddodiad iawn, yn unol ag arfer yr iaith, rhodder ei ffurfiau personol, lle bo angen, fel y gwna Cymro, nid: colli ar dy hun (39), iw hun (138). Gwna dwy enghraifft cystal â deg or gystrawen hon: Mynd i lawr oedd rhifau myfyrwyr (42), Dal i chwarae negeseuon oedd y peiriant (47). Ac eithrio mewn dialog, lle byddair llefarydd yn naturiol yn gollwng y geiryn berfol (ond nid pob llefarydd chwaith), cadwed yr awdur at ei arfer da ei hun ar dudalen 28: Eistedd yn dy gar yr wyt ti. Cymaint â hynna o rybudd ac anogaeth, ar ôl mwynhau yn fawr iawn nofel na allai Dyfrig Elwyn ei hun ganfod llawer o ddim arall oi le arni.