About the Book
A novel for teenagers about a young boy from North Wales who moves to West Wales with his family where he has to face various difficulties as he tries to be accepted by his peers; the novel is the result of collaboration between an experienced author and six Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi pupils. Originally published in 2002. Tir na n-Og Award winner 2003.
About the Author :
Bethan Gwanas has won Tir Na nOg prize for childrens' literature as well as other prizes for her popular novel for adults, 'Amdani'.
Review :
Nofel ar ffurf dyddiadur a geir yma, a hwnnw wedi'i ysgrifennu gan Sion ap Gwynfor, cymeriad pymtheg oed, sy'n hynod ddigalon at ddechrau'r nofel gan fod y teulu newydd symud i Dde Cymru. Mae'n gorfod 'gadael ei fywyd ar ôl', a chychwyn ar y broses anodd o gael ei dderbyn i griw a chymuned sydd wedi hen sefydlu.
Ceir hanes Sion, felly, yn ceisio dod yn un o 'A' crowd Blwyddyn 10, wrth ymgodymu hefyd ag ofnau ac ansicrwydd sefyllfa hollol newydd, breuddwydion a dyheadau naturiol bachgen o'i oed, a'r cywilydd o gael mam sy'n mynnu atgoffa pawb iddi fod yn Miss Prestatyn 1973!
Caiff y cyfan ei gyfleu mewn iaith naturiol a ffraeth, gyda deialogau sy'n llifo'n rhwydd dros ben. Gwneir defnydd difyr o'r gwahaniaeth rhwng tafodiaith Sion a gweddill yr 'Hwntws', a chawn ymdriniaeth sensitif a hynod ddoniol ar brydiau o'r ystod o deimladau ac emosiynau sydd mor naturiol i ddisgybl ysgol yn ei arddegau sefyllfaoedd ac ymdriniaeth sy'n atgoffa rhywun o'r gyfres Pam fi, Duw?
Un o wir gryfderau'r nofel yw'r cymysgedd gwych o gymeriadau a geir ynddi. Cymeriadau fel Mosh, y cyfarfyddwn ag e gyntaf yn nhoiledau'r ysgol. Fe yw drymiwr y grŵp Penbwl, ond 'doedd na'm golwg Penbwl o gwbl ar hwn. Mwy o Meatloaf, efo testosterone ychwanegol'. Neu Ashley Philpot, un o bôrs Blwyddyn 10, sydd '. . . fatha geiriadur yn union . . . yn llenwi ei draethodau efo petha fel "ubiquitous" ac "emblazoned" '. A'r perl o ddisgrifiad o Lara Wilcox a'i 'dwy ffrind sydd ddim yn gallu agor eu cegau heb swnio fatha hyenas. Mae'r ddwy'n denau denau efo gwallt byr sydd mor felyn mae o bron yn wyn . . . fel bod y ddwy yn edrych yn debyg uffernol i cotton buds.'
Canlyniad cystadleuaeth a lansiwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, Uned 5 ac S4C yw'r Nofel-T hon, cystadleuaeth a oedd, mae'n debyg, yn 'chwilio am nofel fer gyda llawer o ddeialog, hiwmor, a themâu fel ffraeo, alcohol, cariadon ac ymarfer corff' ynddi hi. Does gen i ddim amheuaeth fod Bethan Gwanas, gyda chymorth amhrisiadwy criw o ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, wedi llwyddo i gyfuno'r cyfan hyn yn hynod lwyddiannos yn Sgôr, ac roedd yn grêt gallu ei darllen ar un eisteddiad a chwerthin yn uchel ar sawl disgrifiad a sgwrs.
Dwi'n sicr y bydd hon yn nofel boblogaidd tu hwnt gyda darllenwyr yr arddegau, ac yn 'sgorio' gyda sawl oedran arall hefyd!
Gwenan Creunant
Grêt. Blydi fflipin grêt. Dyddiadur 'dio. Dyddiadur wedi ei
sgwennu gan brif gymeriad o'r enw Sion ap Gwynfor.
Waeth imi ddweud y gwir ddim, dyma oedd yn mynd trwy fy
meddwl i wrth i mi isda lawr efo 'mhanad a 'nghopi o Sgôr ar soffa'r gegin. Doedd gan run asgwrn yn fy nghorff awydd ei darllen hi, ond dyma ddechra ar y llafur, ac erbyn y drydedd dudalen ro'n i'n glŵd.
Hogyn o'r enw Sion, gog, yn symud i wlad yr hwntws. Wel
'even' os ti'n 'tôco' fel 'yn, neu fel fi, mae'n amlwg fod 'na stori dda am ddod efo'r syniad yma. Pobol wahanol.
Cefndiroedd gwahanol. Syniadau gwahanol = stori dda. O,
a jest i mi gael rhoi'r record yn sdrêt, os 'da chi'n gog pur fel fi, does dim rhaid i chi boeni am ddeall yr acen, fel ma Sion ei hun yn ddweud yn y nofel, 'Fedrwch chi'm cael eich magu ar Pobol y Cwm heb ddod i ddeall rhywfaint o iaith y de'!
Rŵan, ro'n i wedi bod yn rhyw how feddwl sut i ysgrifennu'r adolygiad 'ma heb ddweud y stori, gan fod neb wedi ei darllen hi eto (ac eithrio pobol bwysig, winc winc) felly dwi wedi penderfynu ei dweud hi'n fras ond drwy beidio gadael y cathod gwyllt o'r bag, a chadw'r rhannau jiwsi i mi fy hun. Cewch ddod i wneud sawl ffrind newydd drwy ddarllen hon.
Mosh, swnio'n rêl pishyn. Yn cŵl-'ed ac un o'r hogia 'ma sy allan o gyrraedd pawb ond yr un mae o'n licio. Hmmm ddeudish i ormod yn fan'na dwch?
Jason. Y typical 'hogyn'. Meddwl i fod o'n anrheg gan Dduw i ferched y byd (ei ego fo'n fwy o faint na fo weithia!). Ond, er dweud hynny, ella fod ei geg o'n y lle rong ond ma'i galon o'n y lle iawn, chwara teg.
Sian Tal, wel Chantelle go iawn, ond 'Chantelle yn enw mor
ponsi on'dyw e?' ac os dach chi'n gofyn i fi, roedd hi'n lwcus, o gysidro bod ei brawd hi wedi cael ei alw'n Framboise!!! (llawer i laff fel hyn yn dod i mewn!!). Hogan neis, unigryw, yn ei byd bach ei hun ond am ba hyd?
Ashley Philpot. AKA Ashley Pisspot. Un o'r swots! Acen y
de rili gryf gyda fe like, as in RILI!
A heb anghofio Lara a'r Cotton Buds. A i ddim i sôn am
rhein. Maen nhw'n rei o'r bobol 'na 'sa well ganddoch chi
anghofio amdanyn nhw. Sy'n dweud hen ddigon!
Toes 'na un ym mhob ysgol. Teleri. Hon ydi'r un yn ysgol
newydd Sion. Y sdynar, y sdoncar, y bêb, beth bynnag alwch
chi nhw, maen nhw'n enwog am dorri calonnau a chreu
gwrthdaro, ac mae Teleri'n rhan bwysig iawn o'r stori yma.
Wrth gwrs, mae hi'n cymryd ffansi at Sion, waeth i mi
ddweud hynna wrthach chi rŵan. Ond, ai peth dwy ffordd
ydi cariad-golwg-gynta-to-die-for-lysh-ysgol-uwchradd? Neu
oes yna ambell i garreg ar hyd y ffordd? Dewiswch chi.
Efallai na fydd eich barn yr un fath ar ôl darllen Sgôr.
Mae sbardun y stori'n tanio pan mae Sion yn ymuno â band
o'r enw Penbwl, sy'n cynnwys yr aelodau Mosh, Jason, Sian
Tal, Teleri, a heb anghofio Sion ei hun! Mae o ar ben y byd
yn cael ei dderbyn gan y grŵp, ond a ydi Sion yn barod am hyn? Cael bod yng nghwmni Teleri, cael cyfle i chwarae ei
sacs a chyfle i wneud ffrindiau newydd. Ond ydi Sion yn
barod am hen hanes y grŵp sy'n llechu dan grachan na
ddoth o rioed ddigon agos ati i'w chrafu, ond sydd eto yno
yn ei boenydio fo? Taw pia hi!
Wel, ydw i wedi dweud digon bellach, dwch? Ydw i wedi
llwyddo ich argyhoeddi chi fod y nofel hon yn werth ei darllen? Yn sleifar, hymdingar a lysh o nofel? Neu oes angen mwy o berswâd arnoch chi?
Dwi rioed wedi gweld llgada Mam yn lledu gymaint â ddaru
nhw wrth fy nghlywed i'n dweud 'mod i am fynd i ddarllen
Sgôr yn lle gwylio Big Brother!
Chefais i 'm swpar echnos. O'n i'n methu rhoir nofel i lawr.
Dwi wedi ei hailddarllen hi.
Wedi ennill perswâd bellach? Gobeithio, wir!
Casia Wiliam, Blwyddyn 9, Ysgol Botwnnog