Llyfr yng Nghymru, Y / Welsh Book Studies (3) - Bookswagon
Book 1
Book 2
Book 3
Book 1
Book 2
Book 3
Book 1
Book 2
Book 3
Book 1
Book 2
Book 3
Home > Biographies & Memoire > Literature: history and criticism > Literary studies: general > Llyfr yng Nghymru, Y / Welsh Book Studies (3)
Llyfr yng Nghymru, Y / Welsh Book Studies (3)

Llyfr yng Nghymru, Y / Welsh Book Studies (3)


     0     
5
4
3
2
1



Out of Stock


Notify me when this book is in stock
X
About the Book

Issue number 3 of an interesting bilingual journal comprising two Welsh and two English articles discussing topics relating to the book publishing industry in Wales, past, present and future by David Stoker, Rhiannon Lloyd, Jane Del-Pizzo, Gwilym Huws, Catrin Vaughan Huws and D. Hywel E. Roberts.

Review :
Y mae llawer wedi gweld eisiau Cylchgrawn Cymdeithas Lyfryddol Cymru, y JWBS o barchus goffadwriaeth, a fu’n gyfrwng tros gynifer o flynyddoedd i gyhoeddi ymchwil i hanes llyfrgelloedd, argraffu a chyhoeddi yng Nghymru ac i hynt rhai llyfrau a chylchgronau penodol. Dihoenodd a marw, nid yn gymaint oherwydd diffyg diddordeb darllenwyr ond oherwydd prinder ymchwilwyr a chyfranwyr. Trodd y rhod erbyn hyn, a gwych o beth yw gweld tri sefydliad cenedlaethol – Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru Aberystwyth, trwy ei hadran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth – yn dod at ei gilydd i ffurfio Canolfan y Llyfr gyda’r bwriad o hybu diddordeb yn y llyfr, a’r tri chorff hyn yn cynnig bob un ei arbenigrwydd ei hun i’r gweithgarwch. Y mae cylchgrawn y Ganolfan yn lletach ei faes na’r hen Gylchgrawn ac yn cynnig astudiaethau ar arwyddocâd a swyddogaeth gyfoes y llyfr yn ogystal ag ar hanes llyfrau a llyfrgelloedd. Y mae pedair erthygl y rhifyn cyfredol yn enghreifftio’n deg y ddwy agwedd yma. Y mae tair erthygl yn ymdrin â materion cwbl gyfoes sydd ar ganol priffordd yr ymdrechion i hybu darllenwyr Cymraeg. Trefnydd a chydlynydd ‘Blwyddyn Darllen Cenedlaethol Cymru, 1998-99’ oedd Rhiannon Lloyd ac yma rhydd arolwg o waith y flwyddyn, a ddenodd gefnogaeth eang gan y Llywodraeth, athrawon a llyfrgellwyr, yn ogystal â chan gwmnïau preifat, a hefyd o’r hyn y llwyddwyd i’w gyflawni, oherwydd i’r rhai nad oeddent yn rhan o’r gweithgarwch hwn gallai ymddangos, efallai, yn annelwig ac arwynebol. Hanes yw hyn oll, wrth gwrs, ond nodyn calonogol yr erthygl yw fod llawer agwedd ar y cynllun wedi gwreiddio a bod y rheini’n gosod her ‘cynnal y fflam’ o’n blaen. Erthygl fwy technegol, ond eto’n trafod agwedd ganolog ar ddarllen Cymraeg, yw un Jane Del-Pizzo a Gwilym Huws sy’n trafod (yn Saesneg) ddarpariaeth deunydd darllen Cymraeg mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae’n batrwm o drafodaeth eglur a threfnus sy’n disgrifio natur a chasgliadau arolwg a gomisiynwyd gan Ganolfan y Llyfr ac a wnaed yn 1999. Y pennaf o’r casgliadau hyn yw fod gan lyfrgelloedd cyhoeddus le cwbl allweddol yn y gwaith o lywio natur y ddarpariaeth yn y siopau ac felly yn yr hyn sy’n cael ei gyhoeddi. Gellid disgwyl y bydd pob llyfrgellydd, ac yn arbennig aelodau pob awdurdod llyfrgell leol, yn pori ac yn myfyrio yn yr adroddiad gwerthfawr hwn. Ymchwil i fater cyfoes o gynhennus sydd gan Catrin Vaughan Huws a D. Hywel E. Roberts yn eu herthygl hwy, sef ‘Addasu, cyfaddasu a chyhoeddi yn y Gymraeg 1965-1995’. Dônt i’r casgliad fod y gweithgarwch hwn, at ei gilydd, yn llesol, yn arbennig ym maes llenyddiaeth blant, ond bod yn rhaid bod yn wyliadwrus rhag i gyfieithu a chyfaddasu lesteirio meithrin awduron gwreiddiol. Bwrw golwg yn ôl a wna David Stoker mewn astudiaeth sy’n disgrifio gwaith Browne Willis yn paratoi ei arolygon o eglwysi cadeiriol Cymru yn y ddeunawfed ganrif, yn fwyaf arbennig Tyddewi a Llandaf. Byddai’n amhosibl crynhoi’r erthygl fanwl ond hynod ddifyr hon ond mae’n dangos nad problem ddiweddar ydyw i gyhoeddwyr ac argraffwyr orfod dygymod ag awdur sy’n cyflwyno copi hanner-pob ac yn mynnu ei ddiwygio bob gafael! Ni ddylai ymgolli yn yr erthyglau rwystro’r darllenydd rhag troi at adran fer y Nodiadau sydd yn y cylchgrawn oherwydd mae’r cipolwg a roddir ar yr ymchwil i’r fasnach lyfrau yn ddadlennol ac yn dra pherthnasol i bwy bynnag sydd am ddeall cyfyngiadau cyhoeddi a masnachu llyfrau Cymraeg yn y Gymru sydd ohoni. Y mae’r astudiaethau hyn yn brawf sicr fod bywiogrwydd mawr ym myd llyfrau yng Nghymru heddiw. Y mae llawer o hynny’n tarddu o weithgarwch adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth – gwyn fyd na bai pob adran yn ein prifysgol mor ymrwymedig i fuddiannau Cymru yn eu hymchwil – ond yn fwy na hynny, mae’r cylchgrawn hwn yn tystio’n eglur mor ffodus ydym fod gennym y sefydliadau cenedlaethol angenrheidiol hyn sy’n dewis cydweithio â’i gilydd er lles y wedd hon ar ein diwylliant. Dywedwn i fod y weledigaeth sydd y tu ôl i’r Ganolfan, a bod y moddion ar gael i’w gwireddu, yn unigryw i Gymru. Llongyfarchiadau i Ganolfan y Llyfr ar ei chylchgrawn newydd, sy’n haeddu cefnogaeth pawb, boent yn haneswyr, yn ddarllenwyr neu’n ddarparwyr, sy’n ymwneud â llyfrau yng Nghymru.


Best Sellers


Product Details
  • ISBN-13: 9781862250215
  • Publisher: National Library of Wales
  • Publisher Imprint: National Library of Wales
  • Edition: Bilingual edition
  • No of Pages: 93
  • ISBN-10: 1862250219
  • Publisher Date: 01 Dec 2000
  • Binding: Miscellaneous print
  • Language: English


Similar Products

Add Photo
Add Photo

Customer Reviews

REVIEWS      0     
Click Here To Be The First to Review this Product
Llyfr yng Nghymru, Y / Welsh Book Studies (3)
National Library of Wales -
Llyfr yng Nghymru, Y / Welsh Book Studies (3)
Writing guidlines
We want to publish your review, so please:
  • keep your review on the product. Review's that defame author's character will be rejected.
  • Keep your review focused on the product.
  • Avoid writing about customer service. contact us instead if you have issue requiring immediate attention.
  • Refrain from mentioning competitors or the specific price you paid for the product.
  • Do not include any personally identifiable information, such as full names.

Llyfr yng Nghymru, Y / Welsh Book Studies (3)

Required fields are marked with *

Review Title*
Review
    Add Photo Add up to 6 photos
    Would you recommend this product to a friend?
    Tag this Book Read more
    Does your review contain spoilers?
    What type of reader best describes you?
    I agree to the terms & conditions
    You may receive emails regarding this submission. Any emails will include the ability to opt-out of future communications.

    CUSTOMER RATINGS AND REVIEWS AND QUESTIONS AND ANSWERS TERMS OF USE

    These Terms of Use govern your conduct associated with the Customer Ratings and Reviews and/or Questions and Answers service offered by Bookswagon (the "CRR Service").


    By submitting any content to Bookswagon, you guarantee that:
    • You are the sole author and owner of the intellectual property rights in the content;
    • All "moral rights" that you may have in such content have been voluntarily waived by you;
    • All content that you post is accurate;
    • You are at least 13 years old;
    • Use of the content you supply does not violate these Terms of Use and will not cause injury to any person or entity.
    You further agree that you may not submit any content:
    • That is known by you to be false, inaccurate or misleading;
    • That infringes any third party's copyright, patent, trademark, trade secret or other proprietary rights or rights of publicity or privacy;
    • That violates any law, statute, ordinance or regulation (including, but not limited to, those governing, consumer protection, unfair competition, anti-discrimination or false advertising);
    • That is, or may reasonably be considered to be, defamatory, libelous, hateful, racially or religiously biased or offensive, unlawfully threatening or unlawfully harassing to any individual, partnership or corporation;
    • For which you were compensated or granted any consideration by any unapproved third party;
    • That includes any information that references other websites, addresses, email addresses, contact information or phone numbers;
    • That contains any computer viruses, worms or other potentially damaging computer programs or files.
    You agree to indemnify and hold Bookswagon (and its officers, directors, agents, subsidiaries, joint ventures, employees and third-party service providers, including but not limited to Bazaarvoice, Inc.), harmless from all claims, demands, and damages (actual and consequential) of every kind and nature, known and unknown including reasonable attorneys' fees, arising out of a breach of your representations and warranties set forth above, or your violation of any law or the rights of a third party.


    For any content that you submit, you grant Bookswagon a perpetual, irrevocable, royalty-free, transferable right and license to use, copy, modify, delete in its entirety, adapt, publish, translate, create derivative works from and/or sell, transfer, and/or distribute such content and/or incorporate such content into any form, medium or technology throughout the world without compensation to you. Additionally,  Bookswagon may transfer or share any personal information that you submit with its third-party service providers, including but not limited to Bazaarvoice, Inc. in accordance with  Privacy Policy


    All content that you submit may be used at Bookswagon's sole discretion. Bookswagon reserves the right to change, condense, withhold publication, remove or delete any content on Bookswagon's website that Bookswagon deems, in its sole discretion, to violate the content guidelines or any other provision of these Terms of Use.  Bookswagon does not guarantee that you will have any recourse through Bookswagon to edit or delete any content you have submitted. Ratings and written comments are generally posted within two to four business days. However, Bookswagon reserves the right to remove or to refuse to post any submission to the extent authorized by law. You acknowledge that you, not Bookswagon, are responsible for the contents of your submission. None of the content that you submit shall be subject to any obligation of confidence on the part of Bookswagon, its agents, subsidiaries, affiliates, partners or third party service providers (including but not limited to Bazaarvoice, Inc.)and their respective directors, officers and employees.

    Accept

    Fresh on the Shelf


    Inspired by your browsing history


    Your review has been submitted!

    You've already reviewed this product!